Frances Elizabeth Wynne
Arlunydd toreithiog o Sir Ddinbych oedd Frances Elizabeth Wynne (1836–1907)[1] a deithiodd ledled Ewrop o'r 1850au ymlaen; roedd yn ferch i Charles Griffith-Wynne A.S. (a oedd hefyd yn cael ei adnabod gyda'i enw llawn: Charles Wynn Griffith-Wynne)[2]
Frances Elizabeth Wynne | |
---|---|
Ganwyd | 1836 Y Foelas |
Bu farw | 1907 |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | arlunydd |
Tad | Charles Griffith-Wynne |
Hi oedd merch ieuengaf Charles Griffith-Wynne, perchennog ystadoedd y Foelas a Chefn Amlwch yn Sir Ddinbych.[3] Roedd yn chwaer i'r AS a thirfeddiannwr Charles Wynne-Finch. Bu farw'n di-briod.
Llyfrau sgetsio
golyguMae casgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru o waith Francis Elizabeth Wynne yn cynnwys 1850 o luniau a dynnodd rhwng 1854-1901. Ceir cryn amrywiaeth yn ei harddull, sy'n amrywio o garactur (neu gartwnau) i bortreadau clasurol.[4][5] Yn eu plith ceir sgetsis o'r Frenhines Victoria gyda Loepold I, brenin Gwlad Belg, mewn opera yn 1857.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Frances Elizabeth Wynne-Finch". Ancestry. Cyrchwyd 24 May 2021.
- ↑ Lodge, Edmund (1846). Get this book in print▼ My library My History Books on Google Play The peerage of the British empire as at present existing. To which is added the baronetage. t. 35.
- ↑ "WYNNE (WYNNE-FINCH) (TEULU), Voelas, gerllaw Pentrefoelas, sir Ddinbych. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-24.
- ↑ "Frances Elizabeth Wynne Sketch Books". National Library of Wales (catalogue). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-26. Cyrchwyd 27 Chwefror 2016.
- ↑ "Women Tourists of Wales". EARLY TOURISTS IN WALES. Cyrchwyd 27 Chwefror 2016.