Dover

tref yng Nghaint

Tref, porthladd a phlwyf sifil yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Dover[1] (neu Dofr). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dover.

Dover
Mathtref, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDover
Poblogaeth31,022 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCalais, Huber Heights, Split Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaint
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr12 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.1275°N 1.3122°E Edit this on Wikidata
Cod OSTR315415 Edit this on Wikidata
Cod postCT16, CT17 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 31,022[2] a chan yr ardal adeiledig Dover boblogaeth o 41,709.[3]

Mae'n enwog am ei chlogwyni gwyngalch – a wnaed yn enwog yn y gân "Bluebirds" gan Vera Lynn. Mae'r pellter byraf rhwng Prydain a Ffrainc rhwng Dover a Calais, pellter o tua 22 milltir, ac mae gwasanaeth fferi poblogaidd rhwng y ddwy borthladd. Yn Ffrangeg, gelwir y dref yn Douvres.

Mae Caerdydd 314.9 km i ffwrdd o Dover ac mae Llundain yn 107.7 km. Y ddinas agosaf ydy Caergaint sy'n 23.3 km i ffwrdd.

Dywedir fod y gair Saesneg Dover yn tarddu o'r hen Frythoneg "Dwfr" neu "ddŵr".

Afon Dour (River Dour) yw enw’r afon fach sy’n llifo trwy Dover ac yn aberu yno i’r môr.

Mae Dover un o'r Pum Porthladd (Cinque Ports).

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 8 Mai 2020
  2. City Population; adalwyd 9 Mai 2020
  3. City Population; adalwyd 9 Mai 2020


  Eginyn erthygl sydd uchod am Gaint. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato