Charles Wynne-Finch
Roedd Charles Griffith Wynne (14 Awst 1815 - 3 Mawrth 1874), a newidiodd ei enw yn ddiweddarach i Charles Wynne-Finch, yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Torïaidd Rhyddfrydol a wasanaethodd fel Aelod Seneddol dros etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon.[1]
Charles Wynne-Finch | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1815 Llundain |
Bu farw | 3 Mawrth 1874 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Charles Griffith-Wynne |
Mam | Sarah Hildyard |
Priod | Laura Susan Pollen, Jamesina Joyce Ellen Stewart |
Plant | Charles Wynne-Finch, Edward Wynne-Finch, John Seymour Wynne-Finch, Edith Sarah Wynne-Finch |
Chwaraeon |
Bywyd Cynnar
golyguCafodd Wynn ei eni yn Llundain ym 1815 yn fab hynaf Charles Wynn Griffith-Wynne, AS etholaeth Sir Gaernarfon (1830-1832) a'i wraig, Sarah Hildyard, merch y Parchedig Henry Hildyard. Roedd ei daid ar ochr ei dad Charles Finch yn cynrychioli etholaethau yn Swyddi Nottingham a Chaint yn San Steffan. Chwaer iddo oedd yr artist Frances Elizabeth Wynne.
Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, lle graddiodd gyda BA ail ddosbarth yn y Clasuron ym 1837 [2]. Bu'n cynrychioli ei brifysgol fel aelod o'i dîm criced gan chwarae dwy gêm ar gyfer Prifysgol Rhydychen ym 1835 a 1836[3].
Newidiodd tad Wynne ei enw teuluol o Finch i Wynne drwy drwydded ym 1828 fel amod o etifeddu Ystadau'r Foelas, Pentrefoelas a Chefnamlwch, Pwllheli o deulu ei wraig. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1865 ac etifeddu'r ystadau yn ddi-amod ail afaelodd Wynne yn ei enw tadol gan newid ei enw i Wynne-Finch[4]
Gyrfa
golyguYm 1849 ymunodd Wynne a'r Cantebury Association, y cwmni a oedd yn gyfrifol am sefydlu a datblygu rhanbarth Canterbury, Seland Newydd fel gwladfa dan nawdd Eglwys Loegr. Pythefnos ar ôl cael ei gyflogi gan y cwmni cafodd ei benodi yn aelod o'i fwrdd rheoli.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYn etholiad cyffredinol 1859 safodd Wynne yn etholaeth Caernarfon fel Ceidwadwr Rhyddfrydol (cefnogwr o'r Blaid Geidwadol, Rhyddfrydig ei farn) yn erbyn William Bulkeley Hughes, a oedd wedi cynrychioli’r etholaeth yn y senedd flaenorol fel Ceidwadwr Rhyddfrydol. Llwyddodd Wynne i gipio'r sedd. Gwrthwynebodd ddiwygio'r drefn bleidleisio a datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru. Anghytunai efo'r Blaid Geidwadol am faterion y farchnad rydd a materion tramor, yn arbennig parthed rhoi cefnogaeth i Ddenmarc fel rhan o Ail Ryfel Schleswig. O ganlyniad i'w ymddieithrio oddi wrth bolisïau’r Ceidwadwyr penderfynodd beidio sefyll yn etholiad 1864[5].
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Ddinbych ym 1869.
Bywyd a marwolaeth
golyguPriododd Wynne-Finch ddwywaith: ym 1841 priododd Laura Susan Pollen, merch Richard Pollen, Rodbourne, Wiltshire, a bu iddynt dri mab Charles Arthur Wynne-Finch, ganwyd 1841; Heneage Edward Wynne-Finch, ganwyd 1842 a John Seymour Wynne-Finch, ganwyd 1845. Bu Susan farw ym 1851. Ym 1863, priododd Jamesina, gweddw Henry Styleman Le Strange, King's Lynn, a merch John Stuart, o Belladrum, Inverness.[4]
Bu farw ar 3 Mawrth 1874 yn 4 Rue Solferino, Paris, Ffrainc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur WYNNE ( WYNNE-FINCH ) (TEULU), Voelas, gerllaw Pentrefoelas, Sir Ddinbych adalwyd 13 Mehefin 2016
- ↑ "ICHARISES WYNNE ESQ MP - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1859-05-28. Cyrchwyd 2016-06-12.
- ↑ "Player Profile: Charles Wynne-Finch". ESPN CricInfo. Cyrchwyd 13 Mehefin 2016.
- ↑ 4.0 4.1 "No title - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1874-03-14. Cyrchwyd 2016-06-12.
- ↑ "TO THE ELECTORS OF THE CARNARVONSHIRE BOROUGHS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1864-07-09. Cyrchwyd 2016-06-12.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Bulkeley Hughes |
Aelod Seneddol Caernarfon 1859 – 1865 |
Olynydd: William Bulkeley Hughes |