Frances Môn Jones

telynores ac athrawes

Telynores o Frychdyn, Wrecsam ac un o enillwyr Medal Syr T.H. Parry-Williams oedd Frances Môn Jones (20 Hydref 1919 - 8 Medi 2000) a adnabyddid hefyd fel Telynores Brython ac yna fel Ffranses Môn.[1] Cynorthwyodd W. S. Gwynn Williams i sefydlu Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1947 ac roedd yn flaenllaw yn natblygiad Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru a Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru.[2]

Frances Môn Jones
Ganwyd20 Hydref 1919 Edit this on Wikidata
Brychdyn Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 2000 Edit this on Wikidata
Llanfair Caereinion Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathro, telynor Edit this on Wikidata

Magwraeth a choleg golygu

Ganwyd Frances Môn Jones ar 20 Hydref 1919 ym Mrychdyn, Sir y Fflint i David Charles Davies a Mary Jane (neé. Goodwin) ac fe'i maged mewn cartref di-Gymraeg. Wedi gadael Ysgol Gynradd Brychdyn bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Grove Park, Wrecsam. Dysgodd Gymraeg a chafodd wersi ar y delyn gan Alwena Roberts, (Telynores Iâl) (1899-1981). Bu'n llwyddiannus ar yr unawd telyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol (1937, 1938 ac 1939). Yn 1949 daeth yn fuddugol ar yr unawd soprano.[3]

Rhwng 1955 a 1960 fe'i derbyniwyd ar gwrs cerddoriaeth yn Ngholeg Cerdd Manceinion rhwng 1955 a 1960, lle arbenigodd yn y delyn gyda Jean Bell ymysg ei darlithwyr a'r Athro D. E. Parry-Williams ym Mhrifysgol Bangor.

Yn 1947 priododd y Parchedig Robert Môn Jones, a oedd yn enedigol o Aberffraw, gweinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd. Buont yn byw mewn sawl man yng Ngogledd Cymru gan ymsefydlu yn Llanfair Caereinion yn 1965.

Hyfforddi golygu

Ymhlith ei disgyblion mae'r gantores werin Siân James ac Ieuan Jones (Athro'r Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain) a llawer rhagor, yn enwedig o ardal Llanfair Caereinion. Ffurfiodd hefyd gôr telynau.

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. eisteddfod.cymru;[dolen marw] adalwyd 10 Rhagfyr 2016.
  2. clera.org; adalwyd Rhagfyr 2016.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; ar wefan Y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd Rhagfyr 2016.
  • Robin Gwyndaf, Portread o gymwynaswraig: Frances Môn Jones, Canu Gwerin cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru 22 (1999), 3-10.