Frances Newstead
Seiclwraig a hyfforddwraig trac a ffordd Seisnig ydy Frances Newstead (ganwyd 5 Mai 1973, Holmfirth, Gorllewin Swydd Efrog)[1]. Cynyrchiolodd Loegr yn Ras Bwyntiau, Treial Amser a Ras ffordd Gemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Bu'n cystadlu yng Nghwpan y Byd Ffordd fel rhan o dîm Prydain Fawr yn 2003 a 2004.
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Frances Newstead |
Dyddiad geni | 5 Mai 1973 |
Taldra | 1.75 m |
Pwysau | 62 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Trac a Ffordd |
Rôl | Reidiwr a Hyfforddwr |
Tîm(au) Amatur | |
Prif gampau | |
Pencampwr Prydain | |
Golygwyd ddiwethaf ar 3 Hydref, 2007 |
Astudiodd Wyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Huddersfield, a dechreuodd seiclo er mwyn cymudo i'r brifysgol. Ymunodd â chlwb beicio mynydd y brifysgol yn ddiweddarach. Erbyn hyn, mae hi'n gweithio i British Cycling ym Manceinion, yn helpu hyfforddi seiclwyr ifanc gorau Prydain a chanfod talent newydd i fod yn rhan o dîm Prydain.
Llywiodd Frances Melanie Easter ar y Tandem i drydydd safle ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain yn y categori anabal.
Canlyniadau
golygu- 2000
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd Prydain
- 1af Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 10 Milltir
- 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Ras Bwyntiau, Rownd 5, Ipoh, Clasuron Cwpan y Byd Seiclo Trac UCI, 2000
- 2il Pursuit, Rownd 5, Ipoh, Clasuron Cwpan y Byd Seiclo Trac UCI, 2000
- 2002
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser Prydain
- 2il Cymal Treial Amser, Ster van Walcheren
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
- 7fed Ras Bwyntiau, Gemau'r Gymanwlad
- 8fed Treial Amser, Gemau'r Gymanwlad
- 8fed Ras Ffordd, Gemau'r Gymanwlad
- 12fed Holland Ladies Tour
- 2003
- 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser, CTT, 25 Milltir
- 2004
- 9fed Profronde van Oostvoorne
- 10fed Sparkassen Giro Bochum (UCI 1.9.2)
- 5ed Dosbarthiad dringo
- 2005
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Proffil ar wefan swyddogol Gemau'r Gymanwlad 2002". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2007-10-03.