Cwpan y Byd Ffordd (Merched) UCI
Dechreuwyd Cwpan y Byd Ffordd (Merched) UCI yn 1998 gan yr Union Cycliste Internationale. Mae'n gystadleuaeth sy'n para tymor rasio cyfan, mae hi'n gyfres sy'n cynnwys sawl ras fel cymal. Mae'r nifer o gymalau'n amrywio o 6 i 12, gwobrwyir nifer wahanol o bwyntiau yn ôl safleoedd y reidwyr ym mhob ras, bydd y reidiwr gyda'r nifer fwyaf o bwyntiau ar ôl y rown derfynol yn ennill Cwpan y Byd.
Mae pob ras Cwpan y Byd yn ras un diwrnod, mae'r cyrsiau'n amrywio o rasus cylchffyrdd i rasus â chwrs hirach gweddol wastad, a rhai gyda llawer o ddringo megis y Fleche Wallonne sy'n darfod wrth ddringo'r allt enwog, Mur de Huy, sydd gyda sawl rhan ar lethr serth tua 15%.
Pencampwyr Pwyntiau Cwpan y Byd (Merched) UCI
golyguBlwyddyn | Enillydd |
---|---|
2007 | Marianne Vos |
2006 | Nicole Cooke |
2005 | Oenone Wood |
2004 | Oenone Wood |
2003 | Nicole Cooke |
2002 | Petra Roßner |
2001 | Anna Millward |
2000 | Diana Žiliūtė |
1999 | Anna Millward |
1998 | Diana Žiliūtė |