Francisco Madero

(Ailgyfeiriad o Francisco I. Madero)

Gwleidydd a milwr o Fecsico oedd Francisco Indalecio Madero (30 Hydref 187322 Chwefror 1913) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1911 i 1913 wedi iddo arwain chwyldro i ddymchwel yr unben Porfirio Díaz.

Francisco Madero
Yr Arlywydd Francisco Madero
Ganwyd30 Hydref 1873 Edit this on Wikidata
Parras de la Fuente Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1913 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, llenor, cerddor, person milwrol, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPartido Nacional Antirreeleccionista, Progressive Constitutionalist Party Edit this on Wikidata
TadFrancisco Madero Hernández Edit this on Wikidata
PriodSara Pérez de Madero Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Parras yn nhalaith Coahuila yng ngogledd Mecsico, i deulu o dirfeddianwyr cefnog. Fe'i danfonwyd i'r Unol Daleithiau i fynychu Coleg Mount St. Mary's yn Emmitsburg, Maryland, o 1886 i 1888. Astudiodd mewn ysgol fusnes ym Mharis ac ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Francisco Madero. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2019.