Franklin Winfield Woolworth

Gŵr busnes Americanaidd oedd Franklin Winfield Woolworth (13 Ebrill 18528 Ebrill 1919). Mae'n enwog fel sefydlydd cadwyn siopau Stryd Fawr Woolworths.

Franklin Winfield Woolworth
Ganwyd13 Ebrill 1852 Edit this on Wikidata
Rodman Edit this on Wikidata
Bu farw8 Ebrill 1919 Edit this on Wikidata
Glen Cove Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethmasnachwr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadJohn Hubbell Woolworth Edit this on Wikidata
MamFanny McBrier Edit this on Wikidata
PriodJennie Creighton Edit this on Wikidata
PlantEdna Woolworth, Helena Maud Woolworth, Jessie Josephine Donahue Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed F. W. Woolworth yn Rodman, Swydd Jefferson, Efrog Newydd, ar 13 Ebrill 1852, a threuliodd ei ieuenctid yn gweithio fel gwas fferm cyn cael gwaith fel cynorthwydd mewn siop. Cafodd gefnogaeth ei gyflogwyr i agor siop yn Utica yn 1879. Ei syniad arloesol oedd y byddai'r siop yn gwerthu nwyddau a gostiai lai na 5 cent yn unig. Methiant fu'r siop gyntaf, ond agorodd ail siop yn Lancaster, Pennsylvania, yn nes ymlaen, yn gwerthu nwyddau am 10 cent neu lai.

Gyda chymorth ei deulu ac eraill, aeth ati i agor cadwyn o siopau cyffelyb yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Erbyn ei farwolaeth yn 1919, roedd gan Gwmni F.W. Woolworth dros fil o siopau yn cael eu rhedeg o bencadlys y cwmni yn Adeilad Woolworth yn Ninas Efrog Newydd. Sefydlwyd y gangen gyntaf ym Mhrydain yn 1910, ond dim ond ar ôl marw Woolworth ei hun y dechreuodd siopau Woolworths ymddangos ar y Stryd Fawr ledled Prydain.

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.