Frenni Fawr

bryn (395m) yn Sir Benfro

Copa ym mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw'r Frenni Fawr. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gogledd-ddwyrain o bentref Crymych ac i'r dwyrain o'r briffordd A478 (Cyf OS SN205350).

Frenni Fawr
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr395 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.984845°N 4.614629°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN2030034916 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd177 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFrenni Fawr Edit this on Wikidata
Map

Ceir pump beddrod o Oes yr Efydd ar y bryn. Gerllaw mae Cadair Facsen, sy'n gyfeiriad ar chwedl Macsen Wledig.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd). Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 395 metr (1296 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Tachwedd 2008.

Gweler hefyd

golygu

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato