Fryslân
Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Fryslân (Iseldireg: Friesland). Mae'n rhan o'r ardal fwy a adwaenir fel Ffrisia. Fryslân yw'r enw yn iaith gynhenhid y dalaith, Ffriseg Gorllewinol. Ers 1997, hwn yw'r enw swyddogol, ac fe'i defnyddir mewn cyhoeddiadau swyddogol Iseldireg hefyd.
Roedd poblogaeth y dalaith yn 643,000 yn 2005. Prifddinas y dalaith yw Ljouwert (Iseldireg: Leeuwarden), gyda poblogaeth o 91,817.
Yn 2004 roedd 440,000 o bobl yn siarad Ffriseg Gorllewinol yn Fryslân, tua 350,000 o'r rhain yn ei siarad fel mamiaith. Rhoddir pecyn i bob newydd-ddyfodiad i'r dalaith yn egluro'r sefyllfa ieithyddol ac yn cyfeirio at gyfleusterau i ddysgu Ffriseg.
Cynrychiolir Fryslân gan faner trawiadol sy'n cynnwys 7 pompeblêden (dail lili'r dŵr felen) a bandiau glas a gwyn croesliniol.
DinasoeddGolygu
Gweler hefydGolygu
- Ried fan de Fryske Beweging (Cyngor y Mudiad Ffriseg)
Taleithiau'r Iseldiroedd | |
---|---|
Taleithiau'r Iseldiroedd | Groningen • Fryslân • Drenthe • Overijssel • Flevoland • Gelderland • Utrecht • Noord-Holland • Zuid-Holland • Zeeland • Noord-Brabant • Limburg |