Cwtiar

rhywogaeth o adar
(Ailgyfeiriad o Fulica atra)
Cwtiar
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Gruiformes
Teulu: Rallidae
Genws: Fulica
Rhywogaeth: F. atra
Enw deuenwol
Fulica atra
Linnaeus, 1758
Fulica atra

Mae'r Gwtiar (Fulica atra), yn aelod o deulu'r Rallidae.

Mae'n aderyn cyffredin trwy rhan fwyaf o Ewrop a rhannau helaeth o Asia ac Affrica. Mewn rhannau lle mae'r gaeafau yn arbennig o oer, megis gogledd Asia, mae'n symud tua'r de a thua'r gorllewin. Mewn rhannau lle nad yw'r llynnoedd yn rhewi yn y gaeaf nid yw'n mudo.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o aelodau eraill y teulu, nid yw'r Gwtiar yn aderyn sy'n cuddio yn y tyfiant ger y glannau. Mae fel rheol i'w weld yn nofio ar lynnoedd, ond gall hefyd ddod allan o'r llyn i fwydo ar gaeau heb fod ymhell o'r lan. Maent yn adar sy'n hoffi ymladd, ac yn aml gellir eu gweld yn ymosod ar Gwtiar arall sy'n dod yn rhy agos.

Nid yw'n hoff iawn o hedfan, ac mae'n gorfod "rhedeg" ar y dŵr i fedru codi i'r awyr. Er hynny, pan mae'n gorfod mudo gall weithiau deithio cryn bellter, yn ystod y nos fel rheol.

Mae y plu i gyd yn ddu a'r pig yn wyn, ac yn ymestyn yn "blât" ar y talcen. Mae'r adar ieuanc yn fwy brown. Mae'n bwyta bron unrhyw beth bach byw y gall ei ddarganfod yn y dŵr neu gerllaw iddo.