Fulke Greville, Barwn 1af Brooke

Bardd a dramodydd o Sais a diplomydd a gwleidydd yn ystod oesoedd Elisabeth ac Iago oedd Syr Fulke Greville, Barwn 1af Brooke (3 Hydref 155430 Medi 1628).

Fulke Greville, Barwn 1af Brooke
Portread olew o'r Barwn Brooke, tua 1620.
Ganwyd3 Hydref 1554 Edit this on Wikidata
Alcester, Beauchamp Court Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 1628 Edit this on Wikidata
Warwick Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, gwladweinydd, dramodydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1572-83, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Member of the 1621-22 Parliament Edit this on Wikidata
TadFulke Greville Edit this on Wikidata
MamLady Anne Neville Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Beauchamp Court ger Alcester, Swydd Warwick, Teyrnas Lloegr. Cafodd ei dderbyn i Brifysgol Caergrawnt ym 1568. Penodwyd i Lys y Mers ym 1576. Aeth ar ei genhadaeth gyntaf i'r Cyfandir ym 1577, a byddai'n ymweld yn ddiweddarach â'r Gwledydd Isel, Iwerddon, a Ffrainc. Gwasanaethodd yn Aelod Seneddol dros Southampton o 1581 i 1584, a thros Swydd Warwick o 1587 i 1601 ac eto ym 1621. Ym 1598 fe'i dyrchafwyd yn drysorydd y llynges. Roedd yn ffefryn i'r Frenhines Elisabeth, ond fe gododd wrychyn yr Ysgrifennydd Gwladol, Syr Robert Cecil, ac o'r herwydd ni chafodd ei ddyrchafu i un o swyddi uchel y llywodraeth yn sgil esgyniad Iago I i orsedd Lloegr. Er gwaethaf, fe'i urddwyd yn Farchog y Baddon, a rhoddwyd Castell Warwick iddo ar orchymyn y Brenin Iago ym 1605. O'r diwedd, wedi marwolaeth Cecil, penodwyd Greville yn Ganghellor y Trysorlys ym 1614, a fe'i anrhydeddwyd gyda barwniaeth ym 1621.[1]

Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i gynnyrch llenyddol wedi ei farwolaeth. Argraffwyd ei gasgliad o sonedau Caelica yn gyntaf ym 1633, a'i fywgraffiad o Syr Philip Sidney ym 1652. Ysgrifennodd o leiaf ddwy ddrama ddarllen, trasiedïau gyda themâu Dwyreiniol: Alaham a Mustapha. Cyfansoddodd sawl traethawd mydryddol, ar bynciau gwleidyddol ac athronyddol.

Ni briododd, er yr oedd yn hoff o fercheta. Trywanwyd Greville yn farw, yn 73 oed, gan un o'i weision. Ysgrifennodd ei feddargraff ei hun: "Gwas i'r Frenhines Elisabeth, cynghorwr i'r Brenin Iago, a chyfaill i Syr Philip Sidney".

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Fulke Greville, 1st Baron Brooke. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2022.