Fychaniaid Brodorddyn
Fychaniaid Brodorddyn oedd prif gainc llinach teulu'r Fychaniaid - teulu a oedd yn olrhain eu tras i Foreiddig (drwy Wallter) a greeodd arfbais y teulu, sef tri phen bachgen gyda sarff yn gwlwm am wddf pob un. Dechreuodd y teulu grynhoi eiddo yn Llechryd yn Elfael (nid Llechryd, Ceredigion) ac yng Nghwm Du. Wedi i Wallter Sais, aelod o'r teulu ennill clod a chyfoeth yn rhyfeloedd Edward III, brenin Lloegr, ychwanegwyd at diroedd ac eiddo'r teulu.
Priododd Gwallter Sais aeres Syr Walter Bredwardine ac ymgartrefu ym Mrodorddyn, a'i ddilyn gan ei fab Rhosier Hen, a briododd ferch Syr Walter Devereux ac yna gan ei ŵyr, Rhosier Fychan a briododd Gwladys ferch Dafydd Gam, ac a syrthiodd gyda'i dad-yng-nghyfraith ym Mrwydr Agincourt yn 1415.[1][2]
Gweler hefyd
golygu- Llys Tre-tŵr: llys a chastell Roger Fychan, Tre-tŵr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ gutorglyn.net; adalwyd 10 Chwefror 2017.
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; LlGC; awdur - Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth; dyddiad cyhoeddi - 1953-54.