Roger Fychan, Tre-tŵr
Tirfeddiannwr cyfoethog o Gymru oedd Syr Rhosier Fychan neu Roger Fychan (m. 1471) a adnabyddid hefyd dan yr enw Roger Vaughan; roedd yn un o deulu Fychaniaid Brodorddyn a sefydlodd gangen bwerus iawn o'r teulu yn Llys Tre-tŵr. Roedd yn fab i Gwladys ferch Dafydd Gam a Syr Roger Vaughan o Frodorddyn (Bredwardine). Bu ei dad farw ochr-yn-ochr gyda'i dad-yng-nghyfraith Dafydd Gam ym Mrwydr Agincourt yn 1415.[1]
Roger Fychan, Tre-tŵr | |
---|---|
Ganwyd | 15 g, 1410 |
Bu farw | 1471 Cas-gwent |
Man preswyl | Llys Tre-tŵr |
Tad | Rhosier Fychan |
Mam | Gwladys ferch Dafydd Gam |
Priod | Margaret Touchet |
Plant | Thomas Vaughan, Eleanor Vaughan, Roger Vaughan, Lewis II ap Roger Vaughan, of Merthyr Tudful, Catherine Vaughan, of Tretower, Gwenllian ferch Roger Vaughan |
Rhodd oedd llys a chastell Tre-tŵr iddo gan ei hanner-brawd William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469), a etifeddodd y castell a'r faenor drwy briodas ei dad, Syr William ap Thomas, sylfaenydd teulu'r Herertiaid a gweddw Syr James Berkeley, etifeddes Tre'r Tŵr.[2]
Priodi
golyguPriododd ddwywaith: yn gyntaf i Denise[3] (ac a adnabyddir hefyd fel "Cicely"),[4] sef merch Thomas ab Philip Fychan, o Dalgarth. Roedd Denise yn fab i Syr Thomas Fychan a Roger Vaughan, Porthaml, a 4 o ferched; bu iddynt oll briodi i deuluoedd Cymreig.[4]
Priododd eilwaith, y tro hwn i Margaret Tuchet, merch James Tuchet, 5ed barwn Audley,[5] a fu hefyd farw yn Agincourt, ac Eleanor Holland, merch Edmund Holland, 4ydd iarll Kent. Cawsant un ferch a briododd Humphrey Kynaston.[6][7][8]
Dywedir iddo hefyd dadogi nifer o blant anghyfrithlon.[4]
Rhyfel y Rhos
golyguHolltwyd Cymru (fel lloegr hefyd) yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau, a brwydrodd Roger gyda'i dad ar ochr y Lancastriaid ym Mrwydr Agincourt. Flynyddoedd yn ddiweddarach trodd Roger at yr Iorciaid.[7] Oherwydd ei deyrngarwch cynnar i frenin Lloegr rhoddwyd iddo gryn gyfrifoldebau a chyflog anrhydeddus am y gwaith, gan gynnwys cael ei wneudyn farchog ar 23 Mawrth 1465.
Ar 17 Awst 1460 gorchmynnodd y Cyngor Cyfrin iddo ef, Syr William Herbert, a Walter Devereux, i rwystro pobl rhag ymgynull a chyflenwi cestyll yng Nghymru. Roedd ym myddin Edward ym mrwydr Mortimer's Cross, 1461, a dywedir mai ef a arweiniodd Owain Tudur i'w ddienyddio yn Henffordd ar ôl y frwydr. Cafodd swyddi porthor castell Bronllys, fforestwr Cantreselyf, stiward a rhysyfwr arglwyddiaeth Cantreselyf, Pencelli, Alexanderston, a Llangoed a thiroedd yn ne-orllewin Lloegr 11 Gorffennaf 1462. Bu ganddo ran flaenllaw mewn tawelu gwrthryfel yng ngorllewin Cymru yn 1465, a chafodd faenorau a stadau'r gwrthryfelwyr yng Ngŵyr a Chydweli.
Ni syrthiodd gyda'i frodyr ym Mrwydr Maes Bambri; gwyddom hyn gan y ceir cerdd gan Lewis Glyn Cothi yn galw arno i ddial y frwydr honno, ac ar 16 Chwefror 1470 gwnaethpwyd ef yn gwnstabl Castell Aberteifi.
Marwolaeth
golyguYm Mai 1471 danfonodd Edward brenin Lloegr, Roger i ddal Siasbar Tudur; fodd bynnag, roedd Siasbar un cam o'i flaen a daliwyd Roger a'i ddienyddio yng Nghas-gwent.[1] Canwyd marwnadau iddo gan Ieuan ap Hywel Swrdwal, Huw Cae Llwyd (Troes Duw lef trist), a Llywelyn Goch y Dant ( Torrodd fraint cywraint'), ac mae'r ddau fardd yn cyhuddo Siaspar Tudur o frad a thwyll. Geilw Guto'r Glyn hefyd ar ei deulu i ddial ei angau (Tair blynedd rhyfedd fu'r rhain).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Griffiths, R (2004-11). "Oxford Dictionary of National Biography - Vaughan Family(per. c.1400–c.1504), gentry" (Online Subscription Service). Oxford University Press 2011. Cyrchwyd 8 Chwefror 2011. Check date values in:
|year=
(help) - ↑ Y BYwgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 10 chwefror 2018.
- ↑ Glyn Cothi, L (1837). Gwaith Lewis Glyn Cothi: The Poetical Works of Lewis Glyn Cothia. Oxford for the Cymmrodorion, or Royal Cambrian Institution. Argraffwyd gan S. Collingwood, Argraffydd y Brifysgol. t. xli.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; LlGC. Adalwyd 10 Chwefror 2018.
- ↑ http://thepeerage.com/p60133.htm#i601327
- ↑ Prichard, T. J. Llewelyn. (2007) [1854]. The Heroines of Welsh History: Or Memoirs of the Celebrated Women of Wales (arg. Reprinted). Kessinger Publishing, LLC. ISBN 978-1-4325-2662-7.
- ↑ 7.0 7.1 Theophilus, Jones (1809). A history of the county of Brecknockshire. 3. George North for the author (Self-published). tt. 503–505.
- ↑ http://wbo.llgc.org.uk/en/s-VAUG-TRE-1450.html