Llys Tre-tŵr

llys amddiffynol y teulu Vaughan a leolir yn ardal Brycheiniog, de Powys

Llys amddiffynnol y teuluoedd Picard a Vaughan oedd Tre-tŵr (neu 'Tretŵr), teuluoedd cyfoethog a dylanwadol Cymreig. Fe'i lleolir ger pentref bychan Tretŵr yn ardal Brycheiniog, de Powys. Mae'r llys a grëwyd gan Roger Fychan, Tre-tŵr yng nghaanol y 15g yn hynod foethus ac yn adlewyrchu statws pwysig y teuluoedd, fel bonedd Cymreig. Mae bellach yn amgueddfa.

Llys Tre-tŵr
Mathadeilad amgueddfa, maenordy wedi'i amddiffyn,  Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1450 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTretŵr, Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin Edit this on Wikidata
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr87 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.88331°N 3.184557°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR117 Edit this on Wikidata

Pan adawodd teulu Vaughan yn y 18g daeth Llys Tre-tŵr yn fferm weithiol. Cofrestrwyd y llys a'r castell, sydd o fewn tafliad carreg i'w gilydd, yn Radd I gan Cadw.[1]

Y llys

golygu

Rhif cofnod Cadw: 20656.

Y castell a godwyd yn wreiddiol (c. 1100) ac yna'r llys sy'n dyddio o ganol y 15g. Aeth y castell a'r tir lle saif y llys o ddwylo deuluoedd Picard, Bluet, Berkeley a'r Herbertiaid tan c. 1450 pan roddodd Syr William Herbert Dre-tŵr i'w hanner-brawd hŷn, Richard Vaughan ac ef mae'n debyg a gododd y llys. Ceir rhan gorllewinol o tua 1447 (dyddiwyd gyda dendrocronoleg) a oedd yn cynnwys neuad fawr gyda solar a rhan gogleddol a ychwanegwyd tua ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ychwanegodd fab Richard Vaughan gatws amddiffynnol oddeutu 1480.

Fe'i cofrestwyd gan Cadw gan ei fod "ymhlith y llysoedd canoloesol gorau yng Nghymru".

Y castell

golygu

Rhif cofnod Cadw: 20662.

Codwyd y castell carreg gwreiddiol yma tua 1100 gan Picard, milwr Eingl-Normanaidd, ac un o ddynion Bernard de Neufmarche a oedd wedi dwyn rhan uchaf o Ddyffryn Wysg oddi wrth y Cymry. Saif y castell ger Nant Rhiangoll, a arferai lifo i mewn i ffos y castell. Castell mwnt a beili ydoedd yn wreiddiol gyda llawer o'r mwnt wedi'i wneud o garreg a ffens bren o'i amgylch, ond newidiwyd y rhain am waliau carreg tua canol y 12g gan fab Picard, sef Roger Picard Iaf. Ychwanegodd hefyd neuadd a solar a gatws amddiffynnol; dymchwelwyd y rhain tua 1230-1240 gan ei or-ŵyr Roger Picard II. Parhaodd y castell yn warchodfa i lu o filwyr tan ddiwedd yr Oesoedd Canol pan ddechreuodd adfeilio. Prynwyd y castell yn 1947 a dechreuwyd gwaith adfer tan y 1960au.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tretower Court Gwefan Cadw; adalwyd 10 Chwefror 2018.

Dolenni allanol

golygu