Y Fyddin Goch

1917-1946
(Ailgyfeiriad o Fyddin Goch)

Y Fyddin Goch (Rwseg: Рабоче-крестьянская Красная армия, Rabotsje-krestjanskaja Krasnaja armieja, Byddin Goch y Gweithwyr a'r Ffermwyr) oedd yr enw a ddefnyddid am fyddin yr Undeb Sofietaidd.

Y Fyddin Goch
Enghraifft o'r canlynolbyddin Edit this on Wikidata
Daeth i ben25 Chwefror 1946 Edit this on Wikidata
Rhan oSoviet Russia Armed Forces, Soviet Armed Forces Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu23 Chwefror 1918 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganRussian Revolution Army Edit this on Wikidata
Olynwyd ganSoviet Army Edit this on Wikidata
SylfaenyddJoseff Stalin, Nikolai Podvoisky, Vladimir Lenin Edit this on Wikidata
RhagflaenyddRed Guards Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais Y Fyddin Sofietaidd

Yn swyddogol, ffurfiwyd y Fyddin Goch ar 23 Chwefror 1918, fel gwarchodlu i blaid y Bolsieficiaid. Ystyrir mai Leon Trotski a'i ffurfiodd. Wedi'r gwrthryfel, daeth yn fyddin y wladwriaeth.

Yn 1920 daeth Michail Tuchatsievski yn gadlywydd arni, swydd a ddaliodd hyd 1937. Y flwyddyn honno, dienyddiwyd ef a llawer o uchel-swyddogion eraill gan yr NKVD ar orchymyn Stalin. Yn 1941, ymosododd yr Almaen ar yr Undeb Sofietaidd, ac yn y misoedd cyntaf dioddefodd y Fyddin Goch golledion enfawr, ac fe'i gyrrwyd yn ôl bron hyd Moscow. Yn raddol, dechreuodd y Fyddin Goch ad-ennill tir, ac enillodd fuddugoliaethau allweddol ym Mrwydr Stalingrad a Brwydr Kursk. Dan gadfridogion fel Georgi Zhukov gyrrwyd yr Almaenwyr yn ôl tua'r gorllewin, ac yn 1945, cipiodd y Fyddin Goch ddinas Berlin.

Eginyn erthygl sydd uchod am yr Undeb Sofietaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.