Gî
Mae gî (Saesneg: ghee neu gee; Hindi: घी, घृत, trawslythrenni: Ghṛta, "ysgeitiwyd" "sprinkled) yn fath o fenyn wedi'i glirio (clarify), a ddefnyddir yn eang mewn bwyd Indiaidd. Fe'i gwneid â llaeth buwch neu byfflo. Fe'i hystyrir yn fraster iachach na menyn, gyda sawl budd iechyd.[1] Mae'n debyg iawn i Manteiga-da-terra/Manteiga-de-garrafa ("menyn y wlad/potel") Brasil. Defnyddir gî fel saim ar gyfer cogino - ffrio bwydydd fel rheol - mewn modd tebyg i goginio wrth ffrio olew olewydd neu fenyn mewn padell.
Enghraifft o'r canlynol | Bengali cuisine, Indian cuisine |
---|---|
Math | ymenyn clir |
Gwlad | India |
Enw brodorol | घी |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Creu Gî
golyguCynhyrchir Gî, fel rheol, trwy fudferwi menyn, gan rannu'r darn hylif oddi ar y gwaddol mwy solet hufennog. Caiff amhureddau eu sgimio oddi ar y wyneb a'i arllwys gan gadw'r braster hylir clear. Dileuir y gwaddol solet sydd wedi setlo i waelod y badell neu sosban wrth fudferwi. Gellir ychwanegu sbeisys ar gyfer blas. Mae gwead, lliw a blas y gî yn dibynnu ar ansawdd y menyn, y ffynhonnell laeth a ddefnyddir yn y broses a hyd yr amser a dreulir yn berwi.
Manteision Gî
golyguYstyrir bod sawl mantais iachus i goginio gyda gî:
- Creu balans gwell mewn asidedd gastrig
- Dosbarthu ac yn darparu maetholion yn fwy effeithiol i holl feinweoedd y corff
- Ysgogi'r metaboledd. Mae bwyd yn cael ei dreulio a'i amsugno'n well, gan osgoi ffurfio tocsinau o fylchau bwyd, yn ogystal â helpu i'w losgi;
- Gwella haenau mwy mireinio'r system nerfol, gan ehangu cof a gallu dysgu
- Cyfrannu at ddatrys problemau ffrwythlondeb;
- Lleddfu a chryfhau'r afu a'r arennau.[2]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-17. Cyrchwyd 2019-01-09.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-22. Cyrchwyd 2019-01-09.