Gŵyl Agor Drysau

Gŵyl drama ryngwladol ar gyfer pobl ifanc a gynhelir yn Aberystwyth

Gŵyl theatr ryngwladol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc yw'r ffordd y disgrifia gwefan Gŵyl Agor Drysau ei hun. Caiff ei threfnu gan Gwmni Theatr Arad Goch.

Gŵyl Agor Drysau
Dechrau/Sefydlu1996 Edit this on Wikidata
Prif bwncdrama Edit this on Wikidata
Canolfan Cwmni Theatr Arad Goch, trefnwyr yr Ŵyl ac un o'r lleoliadau perfformio

Cynhelir perfformiadau, gweithdai a sgyrsiau yn nhref Aberystwyth, sef cartref yr ŵyl, ac mewn theatrau eraill yng Nghymru.

Nod yr ŵyl yw rhoi’r cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd weld cynyrchiadau theatr tramor, a rhoi cyfle i raglenwyr a chynhyrchwyr rhyngwladol brofi cyfoeth celfyddydau perfformio Cymru. Mae hefyd yn darparu gofod ar gyfer deialog ac yn annog cydweithio a rhannu syniadau.

Sefydlu golygu

Sefydlwyd yr ŵyl yn 1996. Cynhaliwyd y degfed ŵyl rhwng 12-16 Mawrth 2024.[1]

Yn ôl y sylfaenydd, Jeremy Turner, "Mae'r Ŵyl Agor Drysau, sy'n digwydd eto cyn hir, yn faner bwysig i ni lle ni'n gwahodd cwmni o dramor i ddod i Gymru i weithio gyda ni."[2]

Hanes golygu

Cynhelir yr ŵyl oddeutu bob 3 mlynedd. Mae Gŵyl Agor Drysau wedi ei chynnal yn: 1996, 2000, 2003, 2005, 2008, 2010, 2012, 2014, 2019.[3]

Roedd gŵyl 2024 yn cynnwys cwmnïau threatr a pherfformiadau o Gymru, Yr Eidal, Gwlad Belg, Awstralia, Iwerddon, Lloegr, a'r Ffindir.[4]

Cennad golygu

Nododd Cyfarwyddwr yr Ŵyl a Chwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner amcanion yr Ŵyl yn rhaglen yr digwyddiad gyntaf yn 1996 fel a ganlyn:[3]

  • Cyfle i ymarferwyr a chynulleidfaoedd o Gymru weld gwaith o dramor
  • Creu llwyfan a ffenest-siop i waith o Gymru
  • Rhoi cyfle i ni ystyried ein gwaith o fewn cyd-destun ryngwladol a rhyng-ddiwylliannol
  • Datblygu ar y gynhadledd Theatr-Mewn-Addysg a gynhaliwyd yn flynyddol ers 14 mlynedd; trefnir trafodaethau yn ystod yr Ŵyl gan ddefnyddio'r perfformiadau a'u hamrwyiaethau fel testunau trafod; ceir trafodaeth ar 'THEATR, RHYFEL A PHOBL IFANC', ac ar 'MYTHOLEG, LLÊN WERIN A THEATR I BOBL IFANC'
  • Creu cyfle i drafod perthnasedd a phwysigrwydd theatr i bobl ifainc mewn diwylliannol ac ieithoedd lleiafrifol

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gŵyl Agor Drysau". Gwefan Gŵyl Agor Drysau. Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  2. "Diwedd cyfnod a newid mawr i gwmni theatr Arad Goch". BBC Cymru Fyw. 29 Ionawr 2024.
  3. 3.0 3.1 "Archif". Gwefan Gŵyl Agor Drysau. Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  4. "Amerslen". Gwefan Gŵyl Agor Drysau. Cyrchwyd 29 Mawrth 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.