Actor, llenor a chyfarwyddwr theatr o Aberystwyth yw'r Athro Jeremy Turner (ganwyd 1958).[1] Mae'n un o sefydlwyr y cwmnïau theatr Cwmni Cyfri Tri ac Arad Goch. Yn 2024, ymddeolodd o'i swydd fel cyfarwyddwr artistig Arad Goch ar ôl cyfnod o 35 mlynedd wrth y llyw.[2] Mae o hefyd yn ddarlithydd Drama rhan amser ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Jeremy Turner
GanwydJeremy George Turner
1958
Aberystwyth
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Aberystwyth
GalwedigaethActor, Cyfarwyddwr theatr a Llenor
Cysylltir gydaArad Goch
PriodMari Rhian Owen

Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Arad Goch bu'n gyfrifol am sefydly Gŵyl Agor Drysau, gŵyl ddrama ryngwladol i blant a phobl ifanc.[3]

Cefndir

golygu

Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym 1979, gan gychwyn gweithio (a chael ei ddylanwadu) gan y Cardiff Laboratory Theatre yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1979 efo'r sioe awyr agored Blodeuwedd. [4] Aeth ati wedyn i greu Cwmni Cyfri Tri gyda rhai o'i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth sef Christine Watkins a Sera Moore-Williams. "Nododd Jeremy Turner ei fod ef a'i gymdeithion wedi dysgu llawer 'o safbwynt athroniaeth theatr, ac o safbwynt potensial theatr hefyd', wrth gyflwyno cynhyrchiad y [Cardiff] Lab, 'nad oedd wedi cael ei wireddu yn y math o theatr yr oeddem ni wedi ei weld gan Gwmni Theatr Cymru, er enghraifft‘“[4]

Unwyd Cwmni Cyfri Tri a Theatr Crwban i greu Cwmni Theatr Arad Goch ym 1989. “O dan arweiniad Jeremy yr esblygodd Arad Goch i fod o gwmni sirol i gwmni cenedlaethol ac i un rhyngwladol,” meddai’r Athro Elin Haf Gruffudd Jones, cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.[5] “Cadwodd yn driw at ei egwyddorion o gyflwyno byd theatr mewn addysg. [...] Caniataodd i blant a phobol ifanc, waeth beth fo’u cefndir, i gael mynediad at y theatr, ac roedd yn egwyddor craidd mewn democratiaeth i Arad Goch ar hyd y blynyddoedd", ychwanegodd.[5]

Teithiodd Jeremy Turner â gwaith Arad Goch i lwyfannau rhyngwladol gan berfformio yn Rwsia, De Corea, Tiwnisia, Ffrainc, Catalwnia a Gwlad Pŵyl.

Cyhoeddodd gyfrol i blant o'r enw Guto Nythbrân i gyd fynd â sioe deithiol i blant yn 2012.[6]

Yn 2024, derbyniodd ei ddoethuriaeth PhD am ei thesis yn seiliedig ar "Nodweddion hanfodol prosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant a iaith leiafrifol."

Mae'n briod â'r actores, llenor a chyfarwyddydd Mari Rhian Owen.

Cafodd ei urddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.

Gŵyl Agor Drysau

golygu

Bu Cwmni Theatr Arad Goch yn gyfrifol am gynnal Gŵyl Agor Drysau o dan Cyfarwyddir Jeremy Turner. Sefydlwyd yr Ŵyl yn 1996 gan ddenu cwmnïau theatr ar gyfer plant a phobl ifanc o wledydd tramor yn ymweld ag Aberystwyth a pherfformio mewn lleoliadau yn y dref a'r fro. Yn y 10fed Gŵyl Agor Drysau rhwng 12-16 Mawrth 2024, cynhaliwyd cyfanswm o 53 perfformiad theatrig, gan 19 cwmni o Gymru, Yr Eidal, Gwlad Belg, Iwerddon, Awstralia, a Lloegr. Daeth 5,705 o gyfranogwyr neu aelodau'r gynulleidfa i’r perfformiadau yn ystod yr ŵyl.[3]

Cardiff Laboratory Theatre

golygu
  • Blodeuwedd (1979) fel actor

Cwmni Cyfri Tri

golygu

Arad Goch

golygu
  • Rwtsh Ratsh Rala Rwdins (1989) - cyfarwyddwr
  • Cai (1990) addasiad o Caligula gan Albert Camus - cyfarwyddwr ac addasydd
  • Saer Doliau (1991) - cyfarwyddwr
  • Tuag At Y Nefoedd Yn Dy Boced (1991) - cyfarwyddwr
  • Yn Ein Dwylo (1992) - drama fudduol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 1992 - cyfarwyddwr
  • Ffrwgwd y tad a mab (1993) - cyfarwyddwr
  • Winter Pictures (1994) - cyfarwyddwr
  • Anrheg (2004)
  • Guto Nythbrân (2012) awdur
  • Cysgu'n Brysur (2016)
  • Jemima (2023) - awdur
  • Palmant/Pridd (2024)
  • Twm Sion Cati - awdur
  • Beca - awdur
  • Lleuad yn Olau
  • Hen Llinell Bell
  • Ble Mae'r Dail yn Hedfan?

Teledu

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Jeremy George TURNER personal appointments - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-22.
  2. "Sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig Arad Goch, Jeremy Turner, yn ymddeol". newyddion.s4c.cymru. 2024-09-22. Cyrchwyd 2024-09-22.
  3. 3.0 3.1 "Gŵyl Agor Drysau Arad Goch yn dathlu 10 mlynedd gyda chefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac ARFOR". Gwefan Cyngor Sir Ceredigion. 2024. Cyrchwyd 24 Medi 2024.
  4. 4.0 4.1 Owen, Roger (2003). Ar Wasgar. Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0 7083 1793 6.
  5. 5.0 5.1 "Jeremy Turner wedi "adeiladu'r llwyfan, agor y drws a rhoi'r gefnogaeth i ddarganfod creadigrwydd"". Golwg360. 2024-01-26. Cyrchwyd 2024-09-22.
  6. "Gwefan Y Lolfa".
  7. "Cellwair". Golwg cyfrol 1 rhif 2. 15 Medi 1988.