Mae Arad Goch yn gwmni theatr Cymreig sy'n cynhyrchu'n bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc. Sefydlwyd y cwmni (sy'n elusen) ym 1989 a lleolir swyddfa Arad Goch yn Stryd y Baddon, Aberystwyth.[1] Prif nod y cwmni newydd yw darparu theatr Gymraeg a Chymreig a hynny, yn bennaf, i blant a phobl ifanc. Maent hefyd yn trefnu Gŵyl Agor Drysau bob blwyddyn sef gŵyl theatr ryngwladol ar gyfer plant a phobl ifanc.

Arad Goch
Canolfan Arad Goch, 2018
Enghraifft o'r canlynolcwmni theatr
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Prif weithredwrFfion Wyn Bowen
SylfaenyddJeremy Turner
PencadlysAberystwyth Edit this on Wikidata
RhanbarthCeredigion Edit this on Wikidata

Sefydlwyd Cwmni Theatr Arad Goch yn 1989 drwy uno dau o'r cwmnïau theatr hynaf yng Nghymru ar y pryd, Theatr Crwban a Chwmni Cyfri Tri. Sefydlwyd y cwmni gydag un ffôn, tair desg a gorfod ymarfer mewn hen sgubor oer ar Ffordd Alexandra yn Aberystwyth. Cynhyrchiad cyntaf y cwmni oedd Rwtsh Ratsh Rala Rwdins.[2]

Cyfarwyddwr y Cwmni o'i sefydlu hyd at 2024 oedd Jeremy Turner. Yn Ionawr 2024 cyhoedd Jeremy Turner ei fod yn ymddeol o'i swydd fel cyfarwyddwr, ac fe benodwyd Ffion Wyn Bowen fel arweinydd artistig newydd.[3]

Arweinwyr artistig

golygu

Cynyrchiadau

golygu

1980au

golygu
  • Rwtsh Ratsh Rala Rwdins (1989)
 
Rhaglen Cai 1990 Arad Goch
 
Rhaglen Saer Doliau 1991 Arad Goch

1990au

golygu

2000au

golygu

2010au

golygu

2020au

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cwmni Arad Goch; Archifwyd 2014-05-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd 7 Ebrill 2014
  2. "Diwedd cyfnod a newid mawr i gwmni theatr Arad Goch". BBC Cymru Fyw. 29 Ionawr 2024.
  3. Blayney, Carwyn. "A new Artistic Director for Arad Goch – Arad Goch" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-01.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.