Gŵyl Cerdd Dant
Cynhaliwyd Gŵyl Cerdd Dant gyntaf yn 1947 yn Y Felinheli. Fe ddaw o dan adain y Gymdeithas Cerdd Dant.
Math o gyfrwng | gŵyl, gŵyl gerddoriaeth, digwyddiad blynyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1948 |
Genre | Cerdd Dant |
Bu'r Ŵyl yn sbardun fawr i dŵf Cerdd Dant fel crefft. Yn ôl Aled Lloyd Davies, awdur, Hud a Hanes Cerdd Dannau, “O’r dyddiad hwnnw y gwelwyd y Gymdeithas yn datblygu, yn tyfu mewn aelodaeth a dylanwad ac yn ehangu gorwelion ei diddordeb."[1]
Tŵf a newid
golyguBu newid mawr mewn cerdd dant yn ystod yr 20g. Ar ddechrau’r ganrif, crefft i unigolion yn unig oedd hi. Yna dechreuwyd ffurfio deuawdau a phartïon bychain. Mentrwyd ymhellach i faes triawdau a phedwarawdau. Yna, o’r 1950au ymlaen fe ymddangosodd corau cerdd dant am y tro cyntaf. Nid oedd pob gŵyl yn cynnwys y gystadleuaeth yn eu rhestr testunau, ac ar y cyfan, creadur prin a chymharol fychan o ran nifer ei aelodau oedd y côr cerdd dant yn y cyfnod hwn.
O’r 1970au ymlaen, fodd bynnag, tyfodd cystadleuaeth y corau i fod yn un o’r rhai mwyaf poblogaidd, ac nid cyd-ddigwyddiad yw mai hwn oedd y cyfnod mwyaf llewyrchus erioed o ran nifer cystadleuwyr a chynulleidfaoedd. Yn yr 1950au, roedd hi’n dal yn bosibl cynnal yr Ŵyl Gerdd Dant mewn neuaddau pentref bychain fel un Penybontfawr, ond bu raid chwilio am lefydd mwy yn fuan iawn. Dechreuodd yr ŵyl gael sylw gan y cyfryngau radio a theledu, ac o’r nawdegau ymlaen bu S4C yn ei darlledu’n flynyddol.[2]
Cystadlaethau
golyguCeir sawl cwpan fel gwobr yn yr Ŵyl Gerdd Dant.[3]
Cwpan Elwyn yr Hendre
golyguMae hwn yn wobr i'r Grŵp Cerdd Dant orau dan 25 oed
Cwpan Ysgol Llanddoged
golyguParti Gwerin Oedran Cynradd
Cwpan Coffa Dewi Mai o Feirion
golyguUnawd Cerdd Dant dros 21 oed
Cwpan Coffa Hugh Jones
golyguUnawd Telyn Blwyddyn 12 a than 25 oed
Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy
golyguDeuawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed
Cwpan Ysgol Dyffryn Conwy
golyguDeuawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed
Tarian Goffa Dafydd o Feirion
golyguCôr Cerdd Dant Agored
Tarian Goffa Ioan Dwyryd
golyguParti Cerdd Dant Agored
Tarian Huw T Edwards
golyguUnawd Telyn Blwyddyn 6 ac iau (Cynradd)
Tlws Beti a Carys Puw
golyguUnawd Cerdd Dant Oedran Cynradd
Tlws Coffa Dic Jones
golyguI hyfforddwr y Côr Cerdd Dant buddugol
Tlws Coffa Elliw Llwyd Owen
golyguUnawd Cerdd Dant Blwyddyn 7 – 11
Tlws Coffa Gilmor Griffiths
golyguCyfansoddi Cainc Cerdd Dant
Tlws Coffa L. E. Morris
golyguParti Cerdd Dant Oedran Cynradd
Tlws Coffa Lowri Morgan
golyguDeuawd Cerdd Dant Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)
Tlws Coffa W. H. a Gwen Pugh
golyguParti Cerdd Dant Oedran Uwchradd
Tlws Côr Aelwyd Caerdydd
golyguGrŵp Llefaru Agored
Tlws Dafydd a Mairwen Roberts
golyguTriawd / Pedwarawd Cerdd Dant
Tlws Selwyn a Neli Jones
golyguParti Gwerin Agored
Tlws Teulu’r Fedw
golyguUnawd Cerdd Dant Blwyddyn 12 hyd at 21 oed
Tlws Yr Herald Gymraeg
golyguUnawd Telyn Blwyddyn 7-11 (Uwchradd)
Tlws Ysgol Glanaethwy
golyguParti Gwerin Uwchradd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Hanes Cerdd Dant". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
- ↑ "Hanes Cerdd Dant". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
- ↑ "Tlysau Parhaol yr Ŵyl". Gwefan Cymdeithas Cerdd Dant. Cyrchwyd 17 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
golygu- Papurau Gwyliau Cerdd Dant yn archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Gwefan swyddogol y Gymdeithas Cerdd Dant
- Lluniau o Ŵyl Cerdd Dant Trawsfynydd, 1957 lluniau ar wefan Casgliad y Werin
- @CerddDant Twitter Cymdeithas Cerdd Dant