Y Felinheli

pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Y Felinheli[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar lan y Fenai rhwng Bangor a Chaernarfon. Mae'r boblogaeth oddeutu 2,000.

y Felinheli
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2.28 mi² Edit this on Wikidata
GerllawAfon Menai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.183°N 4.21°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000104 Edit this on Wikidata
Cod OSSH525675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSiân Gwenllian (Plaid Cymru)
AS/auHywel Williams (Plaid Cymru)
Map

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd canran y siaradwyr Cymraeg dros 3 oed yn y Felinheli yn 72%, gyda'r canran fwyaf yn yr oedran 5-9 mlwydd oed, sef 97.8%. Mae cymdeithas Gymraeg gref yma, gyda'r rhan fwyaf o weithgareddau'r pentref yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg.

Datblygodd yn wreiddiol fel porthladd yn cludo llechi o chwarel Dinorwig, ac yn sgil hynny, fe fagwyd yr enw "Port Dinorwic", ond nid yw'r enw'n cael ei ddefnyddio bellach mewn unrhyw gylch. Cysylltwyd y chwarel â'r pentref gan reilffordd Padarn.

Y cei a'r machlud

Mae'r gymuned cychio a hwylio yn y pentref yn un fawr. Mae gan y pentref angorfeydd, marina ac i ychwanegu at hynny, mae gan y Felinheli busnesau morwrol o bob math; mae'r rhain yn cynnwys busnesau taclu, crewyr hwyliau a buarth cychod. Mae gan y pentref hefyd rywfaint o dai haf. Prysur a bywiog yw'r clwb hwylio hefyd, gyda chystadlaethau dingis yn cael eu cynnal ar brynhawniau Sadwrn a Mercher a nosweithiau Gwener.

Adeiladwyd ffordd osgoi ym 1993/'94, ac yn sgil hynny, mae wedi lleihau'r broblem draffig a oedd y bodoli cyn hynny.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Y Felinheli (pob oed) (2,284)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Y Felinheli) (1,407)
  
64.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Y Felinheli) (1509)
  
66.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Y Felinheli) (316)
  
31.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 17 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu