Gŵyl San Gennaro
Gŵyl Gristnogol flynyddol a gynhelir ym Manhattan, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America yn ystod ail hanner Medi yw Gŵyl San Gennaro a ystyrir yn olygfa ysblennydd a bywiog o ddiwylliant Eidalaidd-Americanaidd y ddinas.
Cychwynnodd yr ŵyl ar ffurf parti bloc a gynhaliwyd gan fewnfudwyr o Napoli ar Mulberry Street, yng nghanol ardal "Little Italy" yn Lower Manhattan, i ddathlu dygwyl San Gennaro ym Medi 1926.[1] Nawddsant Napoli yw San Gennaro, neu Sant Januarius, Esgob Benevento yn niwedd y 3g. Dros amser, datblygodd yn ffair stryd sydd yn para am 11 diwrnod ac yn ymestyn ar draws 11 o flociau'r gymdogaeth, gan gynnwys Mulberry Street rhwng strydoedd Canal a Houston, Hester Street rhwng strydoedd Baxter a Centre, a Grand Street rhwng Baxter a Centre Market Place.
Ymddengys yr ŵyl mewn golygfeydd yn y ffilmiau trosedd Mean Streets (1973) a The Godfather Part III (1990).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "History", The Feast of San Gennaro. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 3 Gorffennaf 2021.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol