Gŵyl Werin Genedlaethol Awstralia

Cynhelir Gŵyl Werin Genedlaethol Awstralia yn flynyddol dros y Pasg yn Canberra, Awstralia. Mae cymysgedd o artistiaid o Awstralia a gweddill y byd ym ymddangos yno. Ceir 17 o lwyfannau.[1]

Andrew Cronshaw ac Ian Blake
Prif lwyfan o'r desg sain
Dawnswyr bol
Dawnswyr Morys
Prif lwyfan
Cystadleuaeth Motown

Yn ogystal â cherddoriaeth, cenhelir 'Brecwast y Beirdd' pob dydd, a hefyd 'Dadl Barddonol y Byd' rhwng timau o feirdd, sy'n dadlau o blaid ac yn erbyn testun y flwyddyn i ennill 'rhech mewn potel Vegemite', sy'n cyfieirio at gerdd enwog o Awstralia, Rhech McArthur. Daeth y ddadl yn un o'r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yr ŵyl, ac roedd yn rhaid ei symud i'r brif lwyfan.[2]

Cynhaliwyd am y tro cyntaf rhwng 11 a 12 Chwefror yng ngholeg athrawon ym Mhrifysgol Melbourne dan yr enw 'Gŵyl Werin Ardal Porthladd Philip'.[3]

O 1969 ymlaen roedd yr ŵyl yn un symudol, yn mynd o dalaith i dalaith, ac roedd ganddi bwyllgor newydd pob tro:-

1967 – Melbourne

1968 – Melbourne

1969 – Brisbane

1970 – Sydney

1971 – Adelaide

1972 – Canberra

1973 – Melbourne

1974 – Brisbane

1975 – Sydney

1976 – Canberra

1977 – Adelaide

1978 – Fremantle

1979 – Melbourne

1980 –Alice Springs

1981 – Brisbane

1982 – Sydney

1983 – Adelaide

1984 – Canberra

1985 – Perth

1986 – Melbourne

1987 – Alice Springs

1988 – Sutherland

1989 – Maleny

1990 –Kuranda

1991 – Adelaide

1992 – Canberra

Wedyn penderfynwyd cynnal yr ŵyl yn Canberra o 1993 ymlaen; roedd yr ŵyl symudol wedi dod yn gostus ac yn gymhleth.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu