I’m gay and fighting aids y’all

Hanes golygu

Sefydlwyd GMFA yn 1992 gan grŵp o ddynion hoyw oedd yn credu nad oedd digon o waith atal HIV yn cael ei dargedu'n benodol tuag at ddynion hoyw.

Yn wreiddiol fe'u galwyd yn Gay Men Fighting AIDS, a gorchwyl cychwynnol GMFA  oedd i ymgyrchu at gael mwy o waith atal HIV i gael ei dargedu at ddynion hoyw, ac i godi ymwybyddiaeth  o HIV ymysg dynion hoyw.

Mae GMFA yn defnyddio model ymfyddino cymuned gydag addysgu cymheiriaid, gyda dynion hoyw yn chwarae rhan blaenllaw mewn cynllunio ac ysgogi ymyriadau. Yn  2001, cyfunwyd GMFA â grŵp dynion du Big Up ac yn 2002, lledaenodd GMFA ei gorchwyl i gynnwys holl faterion iechyd a effeithiai dynion hoyw'n anghyfartal tros boblogaethau eraill. O ganlyniad i hyn, newidiodd GMFA eu neges datganiad a daeth 'Gay Men Fighting AIDS' yn 'GMFA - elusen iechyd dynion hoyw'.

Neges golygu

"Gwella iechyd dynion hoyw wrth gynyddu'r rheolaeth sydd ganddynt tros eu bywydau".

Egwyddorion a gwerthoedd golygu

Sefydlwyd GMFA ar 8 egwyddor:

  1. Dylai ymyrrydiau for yn seiliedig ar dystiolaeth.
  2. Rhaid i ymyriadau atal HIV gyfrannu tuag at dargedau o fewn  Making It Count, fframwaith cynllunio ar gyfer hyrwyddo iechyd HIV ag argymhellwyd gan yr Adran Iechyd.
  3. Ni ddylai prosiect hyrwyddo iechyd un person tros berson arall.
  4. Dylai hyrwyddo iechyd alluogi pobl yn hytrach na lleihau eu dewisiadau.
  5. Dylai ymyriadau fod o werthoedd fwyaf i ddynion hoyw o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
  6. Dylai gwasanaethau ddarparu ar sail  tegwch yn hytrach nac ar sail cydraddoldeb. Mae gan îs-boblogaethau o ddynion hoyw lefelau gwahanol o anghenion ac felly dylsai eu gwaith ymdrechu i leihau anghydraddoldebau ymysg dynion hoyw.
  7. Mae gan bawb, waeth beth eu statws HIV, yr hawl i fywyd rhyw boddhaol. 
  8. Mae gan bawb, waeth beth eu hymddygiad rhywiol, hunaniaeth rhywiol neu statws HIV, yr hawl i'r un hawliau a pharch â phawb arall.

Arweinyddiaeth gwirfoddoli golygu

Mae GMFA yn gyfundrefn sydd dan arweiniad gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr yn arwain y gyfundrefn drwy gael eu haelodi'n aelodau o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn o gystal a chyfrannu i brosiectau fel aelodau o grŵpiau sy'n datblygu prosiectau. Mae gan holl aelodau GMFA yr hawl i ymuno ag unrhyw grŵp o fewn GMFA.

Caiff gwirfoddolwyr eu recriwtio gan mwyaf drwy hyrwyddiad ar holl ymyriadau GMFA, a thrwy fynd trwy broses ragarweiniol. Mae'r gyfundrefn yn croesawu gwirfoddolwyr o holl rannau o gymdeithas, er digwydd bod mae'r rhan fwyaf o'r gwirfoddolwyr yn ddynion hoyw. Mae sylfaen gwirfoddoli wedi ei wneud i fyny o bobl sydd â HIV a phobl sydd heb HIV.

Ariannu a phartneriaethau golygu

Mae gwaith GMFA wedi ei ddatblygu ynghyd â phartneriaeth gyda  Elton John AIDS Foundation, Big Lottery  a chyfundrefnau gwirfoddol, statudol a chyfundrefnau ymchwiliol.

Mae'r rhan fwyaf o waith atal HIV GMFA ar gyfer dynion hoyw'n Llundain yn cael ei ariannu drwy'r  Pan London HIV Prevention Programme, sydd mewn partneriaeth gyda Project for Advice, Counselling and Education, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins/ Terrence Higgins Trust, Camden's Good Sexual Health Team, London Lesbian and Gay Switchboard, y GMI Partnership, Ergo Consulting a chomisiynnwyr o wahanol ymddiriedolaethau gofal sylfaenol Llundain/London NHS primary care trusts.

Ynghyd â chyfundrefn iechyd  CHAPS, mae GMFA hefyd wedi partneru gyda chyfundrefnau iechyd rhywiol ar draws deg dinas yn Lloegr a Chymru. Mae partneriath  CHAPS  yn anelu at ddarparu ymgyrchoedd atal HIV i gyrraedd dynion hoyw yn y dinasoedd hynny ar draws Lloegr sydd gyda'r mynychter fwyaf o HIV. 

Ymyriadau golygu

Mae ymyriadau GMFA ar gyfer dynion hoyw wedi cynnwys ymgyrchoedd hysbysebu, tafleni, cardiau post a llyfrynnau: FS, eu cylchgrawn iechyd, a gaiff ei ddosbarthu'n gendlaethol mewn lleoliadau hoyw a chlinigau Cenhedlol-droethol (CD): a chyrsiau cenedlaethol a Llundeinig yn canolbwyntio ar addysg rhyw, sgiliau bywyd a darfod ysmygu. Yn ychwanegol, mae GMFA yn creu ymyriadau targedau iechyd rhywiol ar gyfer dynion ddu hoyw a dynion sydd âg HIV. 

Mae ymyriadau GMFA wedi cynnwys: Dosbarth y Tin/The Arse Class,[1] cwrs gwaith-grŵp sydd yn dysgu dynion hoyw sut i gael rhyw diogel, hwylus, sâff a phleserus. Rhêd y cwrs cyntaf mewn dinasoedd ar draws y DU yn 2007; eu hymgyrch hysbysebu Cyfrifoldeb/Responsibility y 2005, yn annog dynion i gymeryd cyfrifoldeb tros ryw diogel; cylchgrawn FS, (Fit and Sexy) sydd ar gael am ddim mewn lleoliadau hoyw, ac fel lawrlwyth ac mewn clinigau CD ar draws y DU; ac Yn Y Teulu/In The Family, dathliad 2-gyfrol o orchestion dynion a merched sydd wedi helpu adeiladu'r gymuned hoyw Ddu'n Llundain. 

Yn Nhachwedd 2010, yng nghlwm ag ymgyrch  UNAIDS a'u Dydd AIDS y Byd/ World AIDS day,[2] dechreuodd  GMFA eu hymgyrch 'Count me in". Arnodwyd yr ymgyrch gan Weinidog tros Gydraddoldeb Rhyddfydol-Geidwadol Lynne Featherstone,  drwy fideo o'r Swyddfa Gartref[3] ynghyd â thrawsgrifiad a datganiad perthnasol.[4]

Gwneir GMFA ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol gwahanol, megis Trydar/ Twitter (twitter/GMFA_UK),[5] Facebook gyda'u tudalen eu hunain[6] a thudalenau Big-Up,[7] a blog o'r enw  "Outspoken On Health" sydd yn ymwneud â phynciau perthnasol i iechyd dynion hoyw.[8]

Cefnogwyr enwog golygu

Yn 2009 cyfrannodd Joanna Lumley at arwerthiant blynyddol a gynhelid yn y Royal Vauxhall Tavern, a ddilynodd y diwrnod campau flynyddol boblogaidd.[9] Yn 2010 cyfrannodd Kylie Minogue gryno-ddisg o'i chân "All the Lovers" a lofnodwyd ganddi a llofnodwyd jockstrap gan Ben Cohen a chrys-T wedi'i fframio ar gyfer yr arwerthiant;[10] cyhoeddodd Ben ddatganiad cefnogol a ddangoswyd yng nghylchgrawn FS yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. 

Cyfeiriadau golygu

  1.  GaydarRadio | The #1 Gay Dance & Pop Music Radio Station. Rainbownetwork.com. Adalwyd ar 2012-02-10.
  2.  James Sanders (2010-11-12). Community pledge to support GMFA campaign - PinkPaper.com. News.pinkpaper.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-16. Adalwyd ar 2012-02-10.
  3.  ukhomeoffice (2010-12-01). World Aids Day 2010. YouTube. Adalwyd ar 2012-02-10.
  4.  World Aids Day 2010. Home Office. Adalwyd ar 2012-02-10.
  5.  Twitter. Twitter. Adalwyd ar 2012-02-10.
  6.  GMFA UK - Non-profitorganisatie - Londen. Facebook. Adalwyd ar 2012-02-10.
  7.  Aanmelden. Facebook. Adalwyd ar 2012-02-10.
  8.  Count Me In. Outspokenonhealth.com. Adalwyd ar 2012-02-10.
  9.  Gay Sports Day | So So Gay magazine. Sosogay.org (2010-08-31). Adalwyd ar 2012-02-10.
  10.  GMFA: Press Release - Kylie Joins Ben Cohen in Supporting GMFA/RVT Sports Day. Gmfa.org.uk. Adalwyd ar 2012-11-14.

Dolenni Allanol golygu