Terrence Higgins Trust

Mae'r Terrence Higgins Trust yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy'n ymgyrchu ar faterion sy'n ymwneud â HIV ac AIDS. Nod yr elusen yn benodol yw lleihau trosglwyddiad HIV ac annog iechyd rhywiol da (gan gynnwys rhyw diogel); i ddarparu gwasanaethau ar lefel lleol a chenedlaethol i bobl sydd â, mewn perygl o gael eu heintio neu wedi cael eu heffeithio gan HIV; ac i ymgyrchu dros gwell dealltwriaeth o oblygiadau HIV ac AIDS.

Terrence Higgins Trust
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, sefydliad elusennol, health charity, cwmni cynhyrchu Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1982 Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddRupert Whitaker Edit this on Wikidata
Gweithwyr228, 215, 223, 220, 317 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tht.org.uk Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hysbyseb; rhan o ymgyrch HIV/AIDS "Assume Nothing"

Terrence Higgins Trust oedd yr elusen gyntaf yn y DU i gael ei sefydlu mewn ymateb i HIV, a chafodd ei sefydlu ym 1982.[1]. Yn wreiddiol, galwyd yr elusen yn Terry Higgins Trust.[2] Bu farw Terry Higgins yn 37 oed ar 4 Gorffennaf 1982 yn Ysbyty San Thomas, Llundain. Roedd ef ymhlith y bobl cyntaf i farw o AIDS. Sefydlodd ei gyfaill hir-dymor, Tony Calvert, a gwirfoddolwyr eraill yr elusen fel ffordd i atal dioddefaint o ganlyniad i AIDS. Enwyd yr elusen ar ôl Terry er mwyn creu elfen bersonol ac i bwysleisio'r elfen ddynol o AIDS. Ffurfiolwyd yr elusen ym mis Awst 1983 pan gawsant gyfansoddiad a chyfrif banc, a newidiwyd yr enw (Terrence yn hytrach na' Terry) er mwyn swnio'n fwy ffurfiol. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym mis Tachwedd 1983 a derbyniodd statws elusen ym mis Ionawr 1984.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "FROM FEAR TO HOPE - The Story of the Terrence Higgins Trust" Archifwyd 2001-07-09 yn y Peiriant Wayback, Martin Hoskins. Adalwyd ar 2009-05-04
  2. Rupert Whitaker: 'I've lost 35 friends to HIV' Archifwyd 2011-05-02 yn y Peiriant Wayback Julia Stuart. The Independent. Adalwyd ar 2009-05-05

Dolenni allanol

golygu