Gabriela Zapolska

actores

Nofelydd a dramodydd Pwylaidd oedd Gabriela Zapolska (Maria Gabriela Korwin-Piotrowska; 30 Mawrth 185721 Rhagfyr 1921) sydd yn nodedig fel un o'r to naturiolaidd.[1]

Gabriela Zapolska
GanwydMaria Gabriela Korwin-Piotrowska Edit this on Wikidata
30 Mawrth 1857 Edit this on Wikidata
Pidhaitsi Edit this on Wikidata
Bu farw21 Rhagfyr 1921, 17 Rhagfyr 1921 Edit this on Wikidata
Lviv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, dramodydd, newyddiadurwr, actor llwyfan, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Morality of Mrs. Dulska Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadÉmile Zola Edit this on Wikidata
PriodStanisław Janowski Edit this on Wikidata
PartnerMarian Gawalewicz Edit this on Wikidata
LlinachQ63531766 Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed yn Podhajce yn rhanbarth Galisia, Ymerodraeth Awstria (bellach Pidhaitsi, yr Wcráin). Wedi iddi ffaelu fod yn actores ym Mharis, dechreuodd ysgrifennu nofelau cyffrous yn llawn agweddau chwerw at werthoedd moesol ac ymddygiad y dosbarth canol. Y ddwy nofel sydd wedi parhau'n ddarllenadwy ydy Zaszumi las (1899), roman à clef am chwyldroadwyr Pwylaidd ym Mharis, a Sezonowa miłość (1905), sy'n ymwneud â bywyd dosbarth-canol yn nhref Zakopane yn ne Gwlad Pwyl. Esiamplau o genre'r felodrama yw'r mwyafrif o'i gweithiau i'r theatr, ond y ddrama enwocaf ganddi yw'r ffars Moralność pani Dulskiej (1906). Bu farw yn Lwów, Gwlad Pwyl (bellach Lviv, yr Wcráin), yn 64 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Gabriela Zapolska. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2020.