Ffilm Gymraeg o 1994 yw Gadael Lenin. Fe'i cynhyrchwyd gan Endaf Emlyn. Ysgrifennwyd y sgript gan Sion Eirian ac Endaf Emlyn ac mae'n serennu Sharon Morgan, Wyn Bowen Harries ac Ifan Huw Dafydd. Enillodd y ffilm Wobr BAFTA Cymru am y Sinematograffiaeth Gorau mewn Ffilm, y Cyfarwyddwr Gorau, y Ddrama Orau a'r Sgript Orau.

Gadael Lenin
Teitl amgen Leaving Lenin
Cyfarwyddwr Endaf Emlyn
Cynhyrchydd Pauline Williams
Ysgrifennwr Sion Eirian
Endaf Emlyn
Serennu Sharon Morgan
Wyn Bowen Harries
Ifan Huw Dafydd
Steffan Trefor
Catrin Mai
Ivan Shvedoff
Richard Harrington
Shelley Rees
Cerddoriaeth John Hardy
Sinematograffeg Ray Orton
Sain Jeff Matthews
Dylunio Vera Zelinskaya
Cwmni cynhyrchu Ffilmiau Gaucho Cyf. / S4C mewn cysylltiad â Lara Globus Intl. (St Petersburg)
Amser rhedeg 93 munud
Gwlad Cymru, DU, Rwsia
Iaith Cymraeg, Saesneg, Rwsieg

Adrodda'r ffilm hanes saith arddegwr a thri athro o ysgol Gymraeg yn ne-ddwyrain Cymru sy'n ymweld â Rwsia mewn ymgais i ail-ddarganfod eu hunain. Tra'u bont yn teithio ar dren dros nos i St Petersburg mae'r disgyblion yn cael eu gwahanu wrth eu hathrawon. Tra bod yr athrawon yn stryffaglu i ymdopi heb eu harian na'u cêsys, mae'r disgyblion yn mwynhau golygfeydd St. Petersburg ac yn dod i adnabod eu hunain.

Mae'r ffilm hon wedi ei ffilmio’n gyfan gwbl ar leoliad yn St Petersburg a dyma’r ffilm gyntaf o’r Gorllewin i gael ei gwneud yn y Rwsia newydd.

Cast a chriw

golygu

Prif gast

golygu

Cast cefnogol

golygu
  • Nerys Thomas – Elin
  • Helen Rosser Davies – Lisa (fel Helen Louise Davies)
  • Geraint Francis – Izzy
  • Mikhail Maizel – Sergei
  • Anna Vronskaya – Dynes yn y Car

Cydnabyddiaethau eraill

golygu
  • Cynhyrchydd Cynorthwyol – Adam Alexander
  • Cynhyrchydd Cynorthwyol – Valery Yermolaev
  • Colur – Tamara Freed
  • Golygydd Sain – Darran Clement

Manylion Technegol

golygu

Tystysgrif Ffilm: 12

Fformat Saethu: 35mm

Lliw: Lliw

Cymhareb Agwedd: 1.85:1

Lleoliadau Saethu: St Petersburg, Rwsia

Gwobrau: Gwobrau:

Gŵyl ffilmiau Blwyddyn Gwobr / enwebiad Derbynnydd
Gwyl Ffilmiau Regus Llundain 1993 Gwobr Cynulleidfa
BAFTA Cymru 1994 Cyfarwyddwr gorau Endaf Emlyn
Drama Gorau (Cymraeg)
Sgriptiwr gorau – Cymraeg Endaf Emlyn a Sion Eirian
Sinematograffi gorau – Ffilm Ray Orton
Gwyl Ffilm a Theledu Geltaidd 1994 Drama Hir Orau
Writers’ Guild 1994 Sgript Ffilm Orau heb fod yn yr Iaith Saesneg
Gwyl Ffilmiau Bwlgaria 1993 Gwobr Cist Aur

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau

golygu
  • David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
  • Dave Berry, 'Unearthing the Present: Television Drama in Wales', yn Steve Blandford (gol.), Wales on Screen (Penybont: Seren, 2000), tt. 128-151.
  • Catrin M. S. Davies, Awen Voyle "Gadael Lenin – Deunydd Athrawon" (1994, Canolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth)
  • Llyfryn yn seiliedig ar y ffilm Gadael Lenin i'w ddefnyddio gan athrawon wrth ddysgu Cymraeg Lefel A. ISBN 9781856442688 (1856442683))

Gwefannau

golygu

Adolygiadau

golygu
  •  Elley, Derek (29 Tachwedd 1993). Review: ‘Gadael Lenin’. Variety. Adalwyd ar 29 Awst 2014.
  • European Film Reviews, rhif 2, Medi 1994.
  • Sight and Sound, cyfrol 4, rhif 6, Mehefin 1994.
  • Empire, rhif 61, Gorffennaf 1994.
  • Screen International, rhif 939, 7 Ionawr 1994.

Erthyglau

golygu
  •  Richards, Lisa (2007). Gadael Lenin: Cymunedau llafar ymysg pobol ifanc.
  • Martin McLoone, 'Challenging Colonial Traditions: British Cinema in the Celtic Fringe' yn Cineaste, Medi 2001.
  • National Film Theatre Programmes, Mehefin 1994.
  • Screen International, rhifyn Gwyl Ffilmiau Llundain, 8 Tachwedd 1993. (cyfweliad)

Dolenni allanol

golygu
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Gadael Lenin ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.