Sharon Morgan

actores a aned yn 1949

Actores a sgriptwraig o Gymraes ydy Sharon Morgan (ganed 29 Awst 1949).[1] Yn ystod ei gyrfa, mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu a ffilmiau gan gynnwys Gadael Lenin, Martha, Jac a Sianco, High Hopes, Doctors a Belonging. Mae wedi derbyn tair gwobr BAFTA Cymru.

Sharon Morgan
Ganwyd29 Awst 1949 Edit this on Wikidata
Llandyfaelog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Morgan yng Nghlawddowen, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i brifathro ac athrawes ddrama. Yn ddiweddarach symudodd y teulu i Lanaman ac yna Glan-y-fferi pan cafodd ei thad swydd prifathro yn ysgol bentref Llandyfaelog. Pan oedd yn ifanc, nid oedd yn credu y gallai lwyddo fel actores ond mae'n dweud bod eu rheini bob amser yn gefnogol o'i dewis gyrfa. Astudiodd Morgan gwrs hanes ym Mhrifysgol Caerdydd yn y 1960au, cyn hyfforddi i fod yn actores lwyfan.

Ers cychwyn ei gyrfa yn y 1970au, mae Morgan wedi ymddangos mewn sawl ffilm, cyfres deledu a chynyrchiadau llwyfan yn Saesneg a Chymraeg. Cyfeiriodd y Western Mail ati fel "un o'r actorion uchaf ei pharch yn ei chenhedlaeth".[2] Mae rhannau nodedig yn cynnwys portread o Professor Margaret Edwards yn Yr Heliwr (a'r fersiwn Saesneg A Mind to Kill) rhwng 1994 a 2002, a'i rhan fel Stella Craven yn Mine All Mine, (2004) ysgrifennwyd gan Russell T Davies.

Ymysg gwaith arall, roedd ganddi prif ran reolaidd yng nghyfres ddrama'r BBC Belonging, a rhan lled-reolaidd yn Doctors ac ymddangosiadau mewn nifer o raglenni teledu Prydeinig fel Midsomer Murders, Casualty a Coronation Street. Mae ei ymddangosiadau ar raglenni teledu Cymraeg yn cynnwys Caerdydd, Pobol y Cwm ac Alys.

Yn 2002 ymddangosodd fel Kath, gwraig tŷ rhwystredig yn y comedi byr Pleasure Pill a ffilmiwyd yng Nghaerdydd. Chwaraeodd y brif ran o Martha yn y ddrama Martha, Jac a Sianco (S4C, 2008) a ddisgrifiodd fel "ffilm ddiwylliannol bwysig" sy'n "bortread cryf a sensitif o fywyd amaethyddol yng Nghymru".[3] Enillodd ei ail wobr BAFTA Cymru am ei phortread o Martha[4], ar ôl ennill yn flaenorol am ei pherfformiad yn Tair Chwaer (1998].[5]

Daeth Morgan i amlygrwydd ehangach gyda'i rhan yn Torchwood fel Mary Cooper, mam y prif gymeriad Gwen Cooper. Ymddangosodd Morgan am y tro cyntaf yn y bennod "Something Borrowed" yn yr ail gyfres (2008) a dychwelodd am chwe phennod yn y bedwaredd gyfres (2011).[2] Yn hwyrach yn 2011 serennodd Morgan fel Maggie Jones yn y ffilm Resistance, addasiad o nofel Owen Sheers o'r un enw.[2] Cafodd ei enwebu eto am actores orau yng ngwobrau BAFTA Cymru 2012 am ei gwaith ar Resistance;[6] aeth ymlaen i ennill y wobr yn y seremoni ar 30 Medi 2012.[7][8] Yn Medi 2012, ymunodd Morgan a chast pumed gyfres Hollyoaks Later, yn chwarae Nana Flo.[9] Fe wnaeth hefyd serennu yn y gyfres ddrama Americanaidd Da Vinci's Demons fel Sister Albina - ffilmiwyd rhannau o'r gyfres yn Abertawe.[10]

Yn ogystal â'i gyrfa sgrin, mae Morgan hefyd yn actores lwyfan nodedig a dramodydd. Mae ei rhannau llwyfan yn cynnwys y cynhyrchiad National Theatre Wales o A Good night out in the Valleys a berfformiwyd am y tro cyntaf 2010. Wrth ddisgrifio ei pherfformiad, ysgrifennodd adolygydd y Daily Mail fod "Sharon Morgan yn reiat fel hen ferchetan wirion sy'n gwrando ar fiwsig roc aflafar ar ei chlustffonau".[11]

Dramodydd a Chyfieithydd

golygu

Mae Sharon Morgan wedi cyfieithu dramâu i'r Gymraeg, gan gynnwys Shwnani'n Siarad[12], cyfieithiad o Vagina Monologues gan Eve Ensler[2], a Gobeithion Gorffwyll, cyfieithiad o Une Femme Rompue gan Simone de Beauvoir[13].

Bywyd personol

golygu

Mae gan Morgan dau blentyn, Stephan (g. 1979/1980) a Saran (g. 1995/1996) a threuliodd rhan fwyaf o'i gyrfa actio yn ymdopi gyda bywyd gwaith a'i bywyd fel rhiant sengl. Wrth siarad am dafoli ei bywyd gwaith/adref, dywedodd Morgan "Fe allwch chi ymdopi gyda help ffrindiau. Ry'ch chi'n ffeindio ffordd". Mae Morgan yn ymgyrchydd dros y Gymraeg a fe'i harestiwyd yn 1998 am beintio slogan ar adeilad y Swyddfa Gymreig. Roedd yr actores yn ofni y byddai'r cofnod troseddol hwn yn ei atal rhag cael visa i'r U.D.A. i ffilmio Torchwood yn Los Angeles.[2]

Mae Morgan yn siarad tair iaith, Cymraeg — ei mamiaith — Saesneg a Ffrangeg.[10] Mae hi yn hyrwyddo'r achos am aros yn weithgar wrth heneiddio ac yn cyfeirio at Helen Mirren fel ysbrydoliaeth i fenywod.[1]

Cyhoeddodd ei hunangofiant Hanes Rhyw Gymraes yn 2011.

Ffilmyddiaeth ddethol

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2023 Kestav Jenna Gwennap Ffilm fer yn y Gernyweg (gyda'i merch Saran)
2014 Evermoor Esmerelda Dwyer Cymeriad cylchol
2012 Da Vinci's Demons Sister Albina
Hollyoaks Later Nana Flo Cyfres 5
2011 Resistance Maggie Jones Enillodd wobr Bafta Cymru am Actores Orau
Alys Lisabeth Pennod 5, 6 a 7
2008,2011 Torchwood Mary Cooper Saith pennod: "Something Borrowed"; "The New World"; "The Categories of Life"; "Immortal Sins"; "End of the Road" ; "The Gathering" ; "The Blood Line"
2008 Martha, Jac a Sianco Martha Enillodd wobr Bafta Cymru am Actores Orau
After You've Gone Beryl Pennod: "Going Solo"
2007 Midsomer Murders Delyth Mostyn Pennod: "Death and Dust"
2006 Caerdydd Anne Davies Dau bennod
High Hopes Professor Blunt Dau bennod
Calon Gaeth Aunt Hetty Ffilm deledu
2005–2007 Doctors Gwyneth Powis Cymeriad cylchol
2005 Mabel Janice Ffilm fer
Down to Earth Rita Powell Pennod: "Say Hello, Wave Goodbye"
2004 Mine All Mine Stella Craven Prif ran
Pobol y Cwm Sylvia Bevan Ymddangosiad un tro
2002 Pleasure Pill Kath Comedi fer; prif ran
1994 Gadael Lenin Eileen Ffilm nodwedd
1994–2002 Yr Heliwr Professor Margaret Edwards, pathologist Cymeriad rheolaidd
1992 Casualty Jean Collins Pennod: "Cascade"
1986 No Place Like Home Daphne Davies Pennod: "Trevor's Last Stand"
1984 The Magnificent Evans Rachel Harris Prif ran (chwe pennod)
1983 The Gentle Touch Carrie Harrison Pennod: "Private Views"
1982 Giro City Gweithiwr cymdeithasol Ffilm nodwedd
1979 Coronation Street Mrs Ellis Ymddangosiad un tro
Thomas & Sarah Alice Williams Pennod: "Made in Heaven"
1978 Grand Slam Odette Ffilm deledu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Sharon Morgan takes inspiration from Helen Mirren". Daily Post North Wales. 13 Chwefror 2011. Cyrchwyd 8 Medi 2011.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Wightwick, Abbie (15 Gorffennaf 2011). "Torchwood actress Sharon Morgan on life in Hollywood". Western Mail. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2011.
  3. Martha, Jac a Sianco
  4. "BBC Wales' 11 Bafta Cymru winners". BBC Wales. 18 Mai 2009. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
  5. Price, Karen (18 Mai 2002). "Winning a Bafta was a shock - but not as much as what followed". The Western Mail. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
  6. "Bafta Cymru: Rhod Gilbert and Code Breakers among nominations". BBC. 7 Medi 2012. Cyrchwyd 10 Medi 2012.
  7. "Four Bafta Cymru awards for Patagonia". bbc.co.uk. BBC. 1 Hydref 2012. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2012.
  8. "British Academy Cymru Awards Winners in 2012". Bafta Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-28. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2012.
  9. "Hollyoaks - Characters: New Faces". E4. 15 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-03. Cyrchwyd 15 Medi 2012.
  10. 10.0 10.1 "Spotlight profile of Sharon Morgan". Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
  11. Letts, Quentin (19 Mawrth 2010). "Miner's tale has struck gold in the Valleys". The Daily Mail. Cyrchwyd 26 Medi 2011.
  12. "BBC CYMRU'R BYD - Adloniant". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-11-04.
  13. Llais un yn llefain : monologau cyfoes Cymraeg. Rowlands, Ian. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. 2002. ISBN 0-86381-758-0. OCLC 50301073.CS1 maint: others (link)

Dolenni allanol

golygu