Galaeth Seyfert
Dosbarth o alaethau yw galaeth Seyfert sy'n cynnwys niwclysau sy'n creu allyriant llinell sbectrol oddi wrth nwy wedi ei ïoneiddio. Daw'r enw o'r seryddwr Carl Keenan Seyfert. Mae galaethau Seyfert yn creu is-ddosbarthiadau o niwclysau galaethog gweithredol (NGG), a chredir bod nhw'n cynnwys tyllau du gorenfawr.
Math | math o wrthrych seryddol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Carl Keenan Seyfert |
Daearyddiaeth | |
Nodweddion
golyguNodwedd mwyaf amlwg galaethau Seyfert yw'r niwclews mawr yn y canol, gyda llinellau sbectrol llachar sydd yn cynnwys hydrogen, heliwm, nitrogen ac ocsigen. Mae gwyddonwyr yn credu taw twll du gorenfawr yng nghanol niwclews y galaethau sy'n gollwng y nwy rydym yn ei weld o'i hamgylch.
Dosbarthiadau
golyguYn y gorffennol, roedd yna ddau ddosbarth ar gael ar gyfer galaethau Seyfert: math 1, a math 2. Dosbarthwyd galaethau gyda llinellau tew a thenau o fewn dosbarth math 1. Roedd galaethau gyda llinellau tenau yn unig yn cael eu dosbarthu o fewn math 2. Erbyn nawr, rydym yn rhoi dosbarthiadau ffracsiynol ar gyfer y galaethau, er enghraifft math 1.5.