Ïon
Atom neu moleciwl sydd wedi colli neu ennill un neu ragor o electronau falens gan roi iddo gwefr trydanol positif neu negyddol yw ïon. (Mae modd ffurfio ionau trwy golli electronau yn ddyfnach na'r orbit falens o dan amgylchiadau arbennig - er enghraifft gwres uchel crombiliau’r sêr.)
Enghraifft o'r canlynol | grŵp neu ddosbarth o endidau moleciwlaidd |
---|---|
Math | gronyn wedi'i wefru, endid moleciwlaidd |
Y gwrthwyneb | Moleciwl |
Rhan o | rhyngweithio gydag ïonau, gweithgaredd cludo traws-bilen yr ïon gweithredol, cludo transmembrane rhwng ïonau, gweithgaredd sianel yr ïon â gatiau-ATP, ATPase-coupled ion transmembrane transporter activity, cyclic nucleotide-gated ion channel activity, voltage-gated ion channel activity, Gweithgaredd sianel yr ïon â gatiau protein-G, cludo ïon, ion transmembrane transporter activity, homeostasis yr ïon cellog, homeostasis yr ïon, P-type ion transporter activity |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Gweler hefyd Ion (gwahaniaethu).
Gelwir ïon â gwefr negyddol, sef un gyda fwy o electronau yn ei blisg na phrotonau yn ei niwclews, yn anïon (ana: Groeg 'i fyny'). Ar y llaw arall, gelwir ïon â gwefr positif, gyda llai o electronau na phrotonau, yn catïon (kata: Groeg 'i lawr').
Gelwir ïon o atom unigol yn ïon monatomig, ond os oes ganddo fwy nag un atom fe'i gelwir yn ïon polyatomig. Gelwir ïonau sy'n cynnwys ocsigen yn ocsianïonau.
Mae casgliad o ïonau nwyol, neu nwy sy'n cynnwys canran uchel o ronynnau wedi'u gwefru, yn cael ei alw yn plasma.
Ïoneiddio
golyguDibynna rhwyddineb ïoneiddio atom neu foleciwl ar ei egni ïoneiddio[1]. Dyma'r newid mewn egni a geir pan dynnir electron o'r atom neu foleciwl pan bont ar ffurf nwy. Gellir hefyd creu ion wrth ychwanegu electron i atom neu foleciwl.
Ioneiddio atomau
golyguMae trefn a gwerth egni ïoneiddio electronau'r holl elfennau yn ddadlennol iawn ynglŷn â natur ac ymddygiad yr elfen honno - ac mi fu'n dystiolaeth bwysig wrth ddatrys strwythur yr atom[1]. Er enghraifft (wrth ystyried dosbarthiad Tabl Cyfnodol Mendeleev) mae gan holl atomau metelau grŵp 1 ( Li, Na, K, Rb, Cs) un electron yn eu horbitau falens. Mae'r egni ïoneiddio (I1) yn lleihau wrth ddringo ar hyd y grŵp. Ei werth yw 520 kJ.mol-1 am Li a 375.7 kJ.mol-1 ar gyfer Cs. Gellir ystyried hyn yn ganlyniad i "pellter" yr electron o'r niwclews cynyddu ac felly dylanwad ei wefr bositif gwanhau o'r herwydd. Mae'r un peth yn wir am fetelau grŵp 2, gyda gwerthoedd I1 a I2 yn lleihau wrth ddringo'r grŵp (i Be I1= 899.5 kJ.mol-1, I2= 1757.1 kJ.mol-1 ac i Ba I1= 502.9 kJ.mol-1 I2= 965.2 kJ.mol-1). Adlewyrchir hyn yn nhrefn adweithedd y metelau a dŵr - Li y fwyaf a Ca y lleiaf (o'r metal cymharol gyfarwydd mewn gwers ysgol). naid sylweddol yng ngwerth egni ïoneiddio'r electron nesaf (tu hwnt i'r orbit falens) ym mhob achlysur. Er enghraifft I2 Li yw 7298.1 kJ.mol-1 a I3 Be yw 14,848.7 kJ.mol-1.
Yr un yw'r egwyddor am atomau'r anfetelau, ond, fel arfer codi yn hytrach na gollwng electronau i'r orbit falens a welir. Yma ceir egni ennill electron[2] (a all fod yn bositif neu yn negatif). I "eithafwyr" grŵp 17 (F, Cl, Br, I) gwerthoedd Eea yw 328, 349, 325 a 295 kJ.mol-1.
Ioneiddio molecylau
golyguYr un yw egwyddor ïoneiddio molecylau, gan gynnwys rhai organaidd, ond y mae yma gryn amrywiaeth yn y modd y gwnaed hyn. Ym myd dadansoddi cemegau, mae hyn yn bwysig iawn wrth ymarfer spectrosgopeg mas, er enghraifft.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Burrows, Andrew; ag eraill (2017). Chemistry3 (arg. 3). Rhydychen: OUP. ISBN 9780198733805.
- ↑ Bassi, Hargeet (22 Awst 2020). "Electron Affinity". LibreTexts (UC Davis). Cyrchwyd 7 Mai 2021.