Gallienus
Publius Licinis Egnatius Gallienus (c. 218–268) oedd ymerawdwr Rhufain o 260 hyd 268, ar ôl bod yn gyd-ymerawdwr gyda’i dad Valerian I o 253 hyd 260. Daeth yn ymerawdwr ynghanol Argyfwng y Drydedd Ganrif, a bu’n fwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf o ymerodron y cyfnod hwn.
Gallienus | |
---|---|
Ganwyd | c. 218 Unknown |
Bu farw | 268 Mediolanum |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd hynafol, Rhufeinig, bardd, milwr Rhufeinig, gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Valerian I |
Mam | Egnatia Mariniana |
Priod | Cornelia Salonina |
Partner | Pipara |
Plant | Valerian II, Saloninus, Marinianus, Quintus Julius Gallienus |
Perthnasau | Galliena |
Llinach | Valerian dynasty |
Yn 260 cymerwyd Valerian yn garcharor gan Sapor I, brenin Persia. Er i Gallienus glywed fod ei dad wedi ei ladd a’i flingo gan y Persiaid, ni chyhoeddodd hyn I’r boblogaeth am flwyddyn er mwyn cael amser I gryfhau ei safle.
Bathodd Gallienus lawer o arian yn ystod ei deyrnasiad, a defnyddid y darnau arian fel propaganda, yn dangos yr ymerawdwr yn fuddugoliaethus. Roedd gan Gallienus berthynas agos a’r athronydd neoplatoniadd Plotinus. Mae’n ymddangos I Plotinus awgrymu I’r ymerawdwr y posibilrwydd o greu cymuned athronyddol yn seiliedig ar ‘’Weriniaeth’’ Platon, ond oherwydd problemau niferus yr ymerodraeth yn y cyfnod hwn, ni wnaed yr arbrawf.
Ni lwyddodd Gallienus i ddal ei afael ar holl diriogaethau’r ymerodraeth. Bu llawer o ymladd yn y dwyrain ac yn 268 collodd Gallienus ran helaeth o Gâl pan gyhoeddodd y cadfridog Postumus ei hun yn ymerawdwr Ymerodraeth y Galiaid. Yn y brwydro yn erbyn Postumus daeth cadfridog arall, Claudius I’r amlwg ac enillodd ffyddlondeb y llengoedd.
Yr un flwyddyn ymosododd y Gothiaid ar dalaith Pannonia a bwrw ymlaen nes bygwth y brifddinas ei hun. Yr un pryd anrheithiodd yr Alemanni ogledd yr Eidal. Llwyddodd Gallienus I orchfygu’r Gothiaid mewn brwydr ym mis Ebrill 268, yna aeth tua’r gogledd i orchfygu’r Alemanni. Yna ymgyrchodd yn erbyn y Gothiaid eto, a’u gorchfygu ym mrwydr Naissus, gyda llawer o’r clod am y fuddugoliaeth yn ddyledus I’r cadfridog Aurelianus.
Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, cododd Aureolus, pennaeth y byddinoedd yn Iliria, mewn gwrthryfel. Ymosododd ar yr Eidal a chipiodd ddinas Milan. Cyrhaeddodd Gallienus yno gyda’i fyddin a gwarchae ar y ddinas, ond ynghanol y gwarchae llofruddiwyd ef. Yr oedd sôn bod Claudius ac Aurelianus a rhan yn y cynllwyn.
Yr oedd Gallienus yn llwyddiannus iawn ar faes y gad, ond ni fedrodd uno’r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad. Ar ddiwedd ei deyrnasiad yr oedd yr ymerodraeth de facto yn dair rhan, gan fod Ymerodraeth y Galiaid yn y gorllewin a thiriogaethau Zenobia yn Palmyra yn y dwyrain wedi dod yn rhydd o afael yr ymerawdwr.
Rhagflaenydd: Valerian I |
Ymerawdwr Rhufain 253 – 260 |
Olynydd: Claudius II |