Pannonia
Un o daleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig oedd Pannonia. Ei brifddinas oedd Carnutum. Roedd y dalaith yn cynnwys gorllewin Hwngari, rhan o ddwyrain Awstria, ac ardaloedd yng Nghroatia a Slofenia.
Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Carnuntum |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Rhufain hynafol |
Cyfesurynnau | 44.9°N 19.02°E |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Mae'n debygol mai'r hanesydd Aurelius Victor oedd llywodraethwr y dalaith yn 361, dan yr ymerodr Julian.
Rhanbarthau a dinasoedd
golyguAmddiffynid y ffin ar Afon Daniwb gan ddau golonia (ar gyfer hen filwyr) Aelia Mursia (Osijek) ac Aelia Aquincum (Óbuda) a sefydlwyd gan Hadrian.
Dan Diocletian rhanwyd y dalaith yn bedair rhan:
- Pannonia Prima yn y gogledd-orllewin, a'i phrifddinas yn Savaria/Sabaria (Szombathely),
- Pannonia Valeria yn y gogledd-ddwyrain, a'i phrifddinas yn Sopianae (Pécs),
- Pannonia Savia yn y de-orllewin, a'i phrifddinas yn Siscia (Sisak),
- Pannonia Secunda yn y de-ddwyrain, a'i phrifddinas yn Sirmium (Sremska Mitrovica)
Yn ogystal symudodd Diocletian rhannau o Slofenia allan o Pannonia a'u cynnwys yn Noricum.
Roedd y rhan fwyaf o'r trigfannau brodorol yn pagi (cantonau gwledig) a rennif yn vici (pentrefi), tra bod y rhan fwyaf o'r trefi mawr o darddiad Rhufeinig. Yn ogystal â'r dinasoedd uchod roeddetn yn cynnwys:
- Solva (Esztergom)
- Aquincum (Gogledd-Budapest)
- Contra-Aquincum (De-Budapest)
- Alba Regia (Székesfehérvár)
- Arrabona (Győr)
- Cibalae (Vinkovci)
- Gorsium-Herculia (Tác)
- Mursa (Osijek)
- Marsonia (Slavonski Brod)
- Scarbantia (Sopron)
- Taurunum (Zemun)
- Aquincum neu Acumincum (Stari Slankamen)
- Bononia (Banoštor)
- Cusum (Petrovaradin)
- Serbinum (Gradiška)
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |