Gareth Evans
Cyfarwyddwr, sgriptiwr ffilm, golygydd ffilm a choreograffydd acsiwn Cymreig yw Gareth Huw Evans (ganwyd 1980).[1]
Gareth Evans | |
---|---|
Ganwyd | Ebrill 1980 Hirwaun |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | golygydd ffilm, sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm |
Priod | Rangga Maya Barack-Evans |
Mae'n fwyaf adnabyddus am ddod a'r grefft ymladd pencak silat i sinema byd drwy ei ffilmiau Merantau, The Raid, a The Raid 2.[2]
Bywyd cynnar
golyguGanwyd a magwyd Evans yn Hirwaun, Cwm Cynon.[1] Graddiodd oBrifysgol Morgannwg (nawr yn Brifysgol De Cymru) gyda M.A. mewn sgriptio ffilm,[3][4] ac roedd yn gwneud bywoliaeth drwy roi cymorth i bobl ddysgu Cymraeg ar y Rhyngrwyd.[5]
Gyrfa
golyguAr ôl cyfarwyddo ffilm cyllid bach o'r enw Footsteps, cyflogwyd Evans fel cyfarwyddwr llawrydd ar gyfer rhaglen ddogfen am y grefft ymladd Indonesaidd pencak silat.[2][5] Cafodd ei hudo gan y grefft, a darganfu y crefftwr ymladd Indonesaidd Iko Uwais, oedd yn gweithio fel dosbarthwr i gwmni ffonau.[5] Fe roddodd Evans ran i Uwais yn ei ffilm Merantau, a ryddhawyd yn 2009 a ddaeth yn llwyddiant cwlt.[5] Roedd yn cynllunio i greu ffilm acsiwn mwy o faint ond lleihaodd y cyllid cynhyrchu a chreodd y ffilm acsiwn The Raid: Redemption (2011). Ar ôl llwyddiant The Raid, fe wnaeth y ffilm acsiwn mwy ddatblygu i fod yn sail i'w olynydd, The Raid 2: Berandal (2014).[6][7]
Ers Ionawr 2015, mae Evans wedi dechrau gwaith cyn-gynhyrchu ar ffilm gangster o'r enw Blister yn ôl ei gyfrif Twitter.
Bywyd personol
golyguMae Evans yn 6'7" (2.01m) o daldra.[7] Mae'n byw yn Jakarta gyda'i wraig, Maya, a'u merch Sophie.[1][8][9]
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Teitl | Nodiadau |
---|---|---|
2003 | Samurai Monogatari | Ffilm fer |
2006 | Footsteps | |
2009 | Merantau | |
2011 | The Raid: Redemption | |
2013 | V/H/S/2 | Darn: Safe Haven |
2014 | Killers | Cynhyrchydd gweithredol |
2014 | The Raid 2: Berandal |
Gwobrau
golyguYn Nhachwedd 2011, enillodd The Raid: Redemption wobr "Midnight Madness" yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto.[10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Hughes, Brendan (24 Mai 2012). "Gareth comes home for his film premiere". walesonline.co.uk.
- ↑ 2.0 2.1 Brown, Todd (4 Chwefror 2009). "Gareth Evans and Iko Uwais talk MERANTAU". Twitch Film. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd 22 Medi 2011.
- ↑ "'The Raid' directed by Glamorgan graduate Gareth Evans released today". University of Glamorgan. 18 Mai 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-15. Cyrchwyd 2015-12-13.
- ↑ Ludkin, Gareth (Mai 2012). "profile - Gareth Evans". Buzz: 22. http://content.yudu.com/Library/A1wjsq/BuzzMagMay2012/resources/22.htm.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Wrenn, Eddie (24 Chwefror 2012). "From the valleys of Wales to the hills of Hollywood: Fledgling director Gareth Evans' meteoric rise to fame as critics praise The Raid". Daily Mail. Cyrchwyd 23 Chwefror 2012.
- ↑ Gareth Evans – The Raid Interview at TIFF 2011. Tribute.ca. 8 Medi 2011. Cyrchwyd 2011-10-01.
- ↑ 7.0 7.1 Helen Barlow (15 Mehefin 2014). "Welsh director Gareth Evans' second 'Raid' movie is an all-action expansion of the first Indonesia-filmed hit". South China Morning Post.
- ↑ "Director, Star of 'The Raid' Discuss the Movie". Jakarta Globe. 2 Ebrill 2012.
- ↑ Damon Wise (5 Mai 2012). "The Raid: how a Welsh director rocked the world of Asian action cinema". The Guardian.
- ↑ "Sony Pictures Classics Releasing The Raid". deadline.com. 29 Tachwedd 2011.
Dolenni allanol
golygu- Gareth Evans yn yr Internet Movie Database
- Gareth Evans ar Twitter ar Twitter