Prifysgol De Cymru
prifysgol yn ne Cymru
Sefydlwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 o ganlyniad i uniad rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Prifysgol De Cymru | |
---|---|
Campws Caerdydd | |
Sefydlwyd | 11 Ebrill 2013 (ond rhai rhannau'n llawer hŷn) |
Canghellor | Rowan Williams |
Is-ganghellor | Ben Calvert |
Staff | 3,800 |
Myfyrwyr | 31,127 |
Lleoliad | Caerdydd, Casnewydd, Trefforest, Cymru |
Campws | Caerllion, Caerdydd, Glyn-taf, Casnewydd a Trefforest |
Gwefan | http://www.southwales.ac.uk/cymraeg |
Mae gan Brifysgol De Cymru nifer o gampysau gan gynnwys Trefforest, Glyntaf, Caerdydd a Chasnewydd.
Mae'r Coleg Cerdd a Drama a Choleg Merthyr yn perthyn i grwp Prifysgol De Cymru.
Penodwyd yr Athro Julie Lydon yn Is-Gangellor y Brifysgol (Prifysgol Morgannwg bryd hynny) yn 2010. Hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn Is-Ganghellor ar Brifysgol yng Nghymru.[1]
Roedd Coleg Hyfforddi Sir Fynwy yng Nghaerllion yn un o'r sefydliadau llai a unwyd i greu Coleg Addysg Uwch Gwent yn 1975, ac wedi hynny, Prifysgol De Cymru.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cyn Is-Ganghellor PDC, yr Athro Julie Lydon, yn cael ei gwneud yn fonesig yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines". Prifysgol De Cymru. 1 Ionawr 2020. Cyrchwyd 22 Ionawr 2022.