Gareth Gwenlan
cyfarwyddwr ffilm a aned yn Aberhonddu yn 1937
Cynhyrchydd teledu Cymreig oedd Gareth Gwenlan OBE (26 Ebrill 1937 – 8 Mai 2016)[1] sy'n fwyaf adnabyddus am ei waith ar sioeau comedi sefyllfa megis The Fall and Rise of Reginald Perrin, To the Manor Born, Only Fools and Horses, a High Hopes.
Gareth Gwenlan | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ebrill 1937 Aberhonddu |
Bu farw | 8 Mai 2016 Swydd Hertford |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm |
Gwobr/au | OBE |
Roedd yn gyn bennaeth comedi yn BBC Cymru. Yn 1983 cafodd ei benodi'n Bennaeth Comedi y BBC yn Llundain, a bu yn y swydd tan 1990. Cynhyrchodd a chyfarwyddodd y gomedi High Hopes i BBC Cymru.
Derbyniodd gymrodoriaeth i'r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 1997, ac fe gafodd ei ethol yn gymrawd i Goleg Cerdd a Drama Cymru yn 1998.[1] Gwnaed Gwenlan yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) yn rhestr Anrhydeddau Pen-Blwydd 2013 am wasanaethau i ddarlledu.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Cyn-bennaeth rhaglenni comedi'r BBC wedi marw". bbc.co.uk. BBC Cymru Fyw. 9 Mai 2016. Cyrchwyd 9 Mai 2016.
- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 60534. p. 11. 15 June 2013.