Gareth Haulfryn Williams

hanesydd, archifydd ac awdur a aned yn Llandudno

Hanesydd, archifydd ac awdur yw Gareth Haulfryn Williams (ganwyd 9 Chwefror 1944), a gyhoeddodd yn 1990 'fynegai' i holl waith Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion rhwng 1878 a 1982.[1] Roedd ei dad, J. Haulfryn Williams, yn ysgrifennydd Cymdeithas y Cymmrodorion hyd ei farw yn 1980.

Gareth Haulfryn Williams
Gareth Haulfryn Williams yng Nghynhadledd Wicipedia Cymraeg a Llên Natur yn 2017
Ganwyd9 Chwefror 1944 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharchifydd Edit this on Wikidata

Gareth Williams oedd wrth wraidd Cof y Cwmwd, sef hanes Uwchgwyrfai a'r cylch, ar wefan trwydded agored.[2] Bu'n Archifydd Gwynedd am rai blynyddoedd ac ar sawl bwrdd sefydliadau megis y Llyfrgell Genedlaethol.[3] Bu'n Ynad Heddwch ac yn Gadeirydd Mainc Gwynedd.

Ganed Gareth Haulfryn Williams yn Llandudno a graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Bangor mewn Saesneg, a derbyniodd Ddiploma mewn Gweinyddu Archifau a Gradd Meistr ymchwil yn Hanes Cymru. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Glan Clwyd am ddeunaw mis cyn symud i Ddolgellau fel archifydd. Ymddeolodd fel Pennaeth Diwylliant Cyngor Gwynedd yn 2003. Mae wedi bod yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ac yn Gadeirydd Cwmni Treftadaeth Rheilffordd Ffestiniog. Ef yw Archifydd Mygedol Cymdeithas Rheilffordd Ucheldir Cymru.

Mae'n byw yn Llanwnda gyda'i wraig, ac yn ddarlledwr profiadol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Am ragor ar y Mynegai i'r Cymmrodor a Thrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1878-1982, gweler cymmrodorion.org; lle gelwir y gwaith yn 'drysor'.
  2. cof.uwchgwyrfai.cymru; adalwyd 16 Chwefror 2023.
  3. cymmrodorion.org; adalwyd 16 Chwefror 2023.