Gary Sprake
Pêl-droediwr Cymreig oedd Gareth (Gary) Sprake (3 Ebrill 1945 – 18 Hydref 2016).[1] Roedd yn golgeidwad a chwaraeodd i Leeds United, Birmingham City ac enillodd 37 cap dros Gymru.
Gary Sprake | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ebrill 1945 Abertawe |
Bu farw | 18 Hydref 2016 Solihull |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Birmingham City F.C., Leeds United A.F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru |
Safle | gôl-geidwad |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa Ieuenctid | |||
---|---|---|---|
1962-1963 | Leeds United | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
1962–1973 | Leeds United | 381 | (0) |
1973–1975 | Birmingham City | 16 | (0) |
Cyfanswm | 397 | (0) | |
Tîm Cenedlaethol | |||
1963–1974 | Cymru | 37 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). |
Fe'i ganwyd ym maestref Winsh-wen, Abertawe.
Gwelwyd ei botensial gan sgowt o Leeds tra roedd yn chwarae i dîm ieuenctid Abertawe. O fewn 18 mis roedd wedi ennill cap am chwarae dros ei wlad: yn ddim ond deunaw oed - y gôl-geidwad ieuengaf i chwarae dros Gymru erioed.
Bu o gymorth i Leeds a chawsant eu dyrchafu i'r Gynghrair Gyntaf yn 1963/64, lle arhosodd y tîm am rai blynyddoedd. Yn 1978 cyhuddodd y rheolwr Don Revie o roi cil-dwrn i chwaraewyr timau eraill, a threfnu canlyniadau gemau. Derbyniodd swm o arian gan y papur newydd y Daily Mirror. Trodd llawer o swyddogion a ffans Leeds yn ei erbyn, ond daliodd i fynnu fod y cyhuddiadau yn erbyn Sprake yn gywir.
Dioddefodd am rai blynyddoedd o boenau yn ei gefn, ac fe'i beirniadwyd gan rai am fethu ag arbed y bêl, ar adegau.
Cofiant
golygu- Careless Hands: The Forgotten Truth of Gary Sprake, gan Tim Johnson & Stuart Sprake
Cyfeiriadau
golygu- ↑ theguardian.com; coffad iddo yn y Guardian; adalwyd 22 Hydref 2016