Geoffrey Henry
Gwleidydd o Ynysoedd Cook oedd Syr Geoffrey Arama Henry KBE (16 Tachwedd 1940 – 9 Mai 2012) oedd ddwywaith yn Brif Weinidog Ynysoedd Cook, o Ebrill 1983 hyd Tachwedd 1983 ac o 1989 hyd 1999. Ef oedd arweinydd Plaid Ynysoedd Cook (CIP) o 1979 hyd 2006. Roedd yn enwog am ei genedlaetholdeb ac am wrthwynebu arbrofi niwclear gan Ffrainc yn y Cefnfor Tawel.[1]
Geoffrey Henry | |
---|---|
Ganwyd | 16 Tachwedd 1940 Aitutaki |
Bu farw | 9 Mai 2012 Ynysoedd Cook |
Dinasyddiaeth | Seland Newydd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Member of the Parliament of the Cook Islands |
Plaid Wleidyddol | Cook Islands Party |
Gwobr/au | KBE |
Enillodd radd yn y gyfraith o Brifysgol Victoria yn Wellington, Seland Newydd.[2] Daeth yn arweinydd yr CIP ym 1979 wedi i'w genfder Albert Henry ymddiswyddo yn dilyn sgandal. Gwasanaethodd yn y swydd am dymor byr cyn dod yn Arweinydd yr Wrthblaid. Dychwelodd i swydd y prif weinidog ym 1989. Cafodd ei urddo'n farchog ym 1992.[1] Tua diwedd y 1990au roedd gan Ynysoedd Cook ddyled ragor na $100 miliwn. Roedd aelodau'r CIP yn gwrthwynebu arweinyddiaeth Henry, ac felly ymddiswyddodd o'r brifweinidogaeth yng Ngorffennaf 1999 er mwyn atal ei blaid rhag chwalu.[1]
Penodwyd Henry yn Ddirprwy Brif Weinidog ac yn Weinidog dros Gyllid mewn llywodraeth glymblaid yn 2004, a gwasanaethodd hyd 2006. O 2011 hyd ei farwolaeth gwasanaethodd fel Llefarydd Senedd Ynysoedd Cook.[1] Yn Awst 2010 cafodd ei dynnu oddi ar awyren Air New Zealand ym Maes Awyr Rhyngwladol Auckland am iddo jocian bod swyddogion diogelwch yn credu ei fod yn derfysgwr.[3]
Bu farw o ganser ar 9 Mai 2012. Talwyd teyrnged gan Brif Weinidog Seland Newydd John Key.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Former Cook Islands PM Sir Geoffrey Henry dies. TVNZ (10 Mai 2012). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
- ↑ (Saesneg) Former Cook Islands PM dies. stuff.co.nz (10 Mai 2012). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
- ↑ (Saesneg) Former Cook Islands PM in terror alert. Radio New Zealand (26 Awst 2010). Adalwyd ar 11 Mai 2012.
- ↑ (Saesneg) Key pays tribute to ex-Cook Islands PM. MSN NZ (10 Mai 2012).