Geomorffoleg

astudiaeth wyddonol o dirweddau

Astudiaeth o ffurf y ddaear yw geomorffoleg, yn enwedig ei wyneb. Mae'n un disgyblaeth o fewn daearyddiaeth ffisegol sy'n ceisio esbonio sut mae'r ffurfiau ffisegol hyn yn datblygu nawr ac yn y gorffennol. Mae daeareg yn gymorth i esbonio ffurf wyneb y ddaear hefyd, ac erydiad a gwaddodiad yw'r ffactorau pennaf. Oherwydd ein gwybodaeth gynyddol am wyneb y lleuad a'r blaned Mawrth, mae morffoleg erbyn hyn yn cwmpasu ffurf y cyrff hyn hefyd.

Geomorffoleg
Enghraifft o'r canlynolcangen o ddaeareg, cangen o ddaearyddiaeth Edit this on Wikidata
Mathdaearyddiaeth ffisegol, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Rhan ogeomorffoleg a regolith ac esblygiad tirwedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyslithosffer Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cono de Arita, Salta, Yr Ariannin
Wyneb y Ddaear, gyda coch yn dynodi uchter - bryniau a mynyddoedd

Er fod morffoleg yn golygu astudiaeth ffurf tirwedd cyffredin fel ystumiau afon, ffurf bryniau neu baeau, mae'n anodd esbonio hanes y ffurfiad. Dros y milenia newidiwyd siap y tirffurfiau hyn, yn bennaf gan rym blatiau tectonig ynghyd â chyfuniad o brosesau megis effaith dŵr, gwynt, iâ, tân, organebau byw, a newidiadau drwy adweithiau cemegol sy'n gyfrifol am ffurfio pridd a deunyddiau eraill. Cafodd yr hinsawdd, felly, gryn effaith ar geomorffoleg y Ddaear, a chafodd dyn hefyd ddylanwad, yn enwedig ers y Chwyldro Diwydiannol. O ran geoleg, yr effaith fwyaf ar y Ddaear yw'r grymoedd a ffurfiodd y mynyddoedd, ffurfio llosgfynyddoedd, newidiadau isostatig i'r tirffurfiau a chreu basnau gwaddodol tyfn ble mae wyneb y Ddaear yn gostwng ac yn cael ei lenwi gan ddeunydd o rannau eraill. Mae wyneb y Ddaear, felly, yn groesdoriad o weithredoedd hinsoddol, hydrolegol a biolegol.

Geirdarddiad golygu

Mae dwy ran i'r gair: 'geo' (Groeg: γῆ' neu , "daear" a 'morff': 'μορφή' neu morphḗ, "ffurf". Mae'r terfyniad Cymraeg 'eg' yn cael ei roi ar ddiwedd astudiaethau fel hyn i ddynodi ei fod yn faes academaidd.

Hanes morffoleg golygu

Yn y blynyddoedd cynnar, roedd morffoleg yn wyddionaeth daearegol. Y cylchred erydiad, a ddatblygwyd gan Morris Davis rhwng 1884 a 1899, oedd y model morffolegol cyntaf, ond roedd yn syml iawn.

Datblygwyd model newydd a mwy cymhleth gan Walther Penck yn y 1920au.