George Brinley Evans
Llenor ac arlunydd o Gymru oedd George Brinley Evans (1925 – 2022).
George Brinley Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1925 Dyffryn Cellwen |
Bu farw | 2022 |
Ganed ef ym mhentref Dyffryn Cellwen, ym mlaenau Cwm Dulais, yn yr hen Sir Forgannwg. Glöwr a chyn-filwr o Sir Frycheiniog oedd ei dad. Cymraeg oedd iaith ei rieni, ond cafodd y plant eu magu'n bennaf yn y Saesneg. Enillodd ei dad ddigon o arian i agor siop tsips a neuadd filiards yn ogystal â pherchen ar dyddyn ac hawl cloddio. Aeth George i'r pwll glo yn 12 oed, ac yn 17 oed ymunodd â'r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd am dair mlynedd ar gychod modur, yn gyntaf gyda'r XVed Corfflu (Byddin Brydeinig India) ac yna'r XIIfed Fyddin yn ymgyrch Byrma.[1]
Wedi diwedd y rhyfel, dychwelodd i dde Cymru a phriododd ei gariad, Peggy Jones. Gweithiodd yn y diwydiant glo tra'n arlunio a cherflunio yn ei amser rhydd. Cyhoeddwyd ei gartwnau gwleidyddol yn y Neath Guardian a'r South Wales Evening Post. Yn y cyfnod hwn, daeth yn gyfeillgar â'r awduron B. L. Coombes a George Ewart Evans, a'r meddyg a lladmerydd celf Aubrey Thomas. Cafodd ei daro yn y wyneb gan bostyn pwll mewn damwain yng Nglofa Banwen, a chollodd un o'i lygaid. Ysgrifennodd sgript ar gyfer cyfres deledu wedi'i lleoli mewn glofa yng Nghymru, a chynigodd y sgript i'r BBC ac ITV, ond penderfynodd rhoi'r gorau i'r syniad yn hytrach na symud i Lundain i oruchwylio'r prosiect.[1]
Rhyw 30 mlynedd yn ddiweddarach, wedi marwolaeth ei wraig, trodd Evans ei sylw yn ôl at ysgrifennu, ac ymgofrestrodd â chwrs straeon byrion Alun Richards yn y ganolfan addysg oedolion ym Manwen. Mae ei gyfrolau yn cynnwys y casgliad o straeon byrion The Boys of Gold (2000), ei hunangofiant rhyfel Where the Flying Fishes Play (2006), a'i ail hunangofiant When I Came Home (2012). Cedwir ei baentiadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn Amgueddfa Lofaol Cymru (Pwll Mawr), ac yn Llyfrgell Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Bu farw George Brinley Evans yn 96 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Obituary: George Brinley Evans", Nation.Cymru (15 Hydref 2022). Adalwyd ar 8 Ionawr 2025.