George Hayward

Chwaraewr rygbi'r undeb a'r gyngrair

Roedd George Hayward (13 Chwefror 1886 - 13 Hydref 1946) yn flaenwr rygbi'r undeb rhyngwladol Gymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Abertawe, a chafodd ei gapio dros Gymru bum gwaith. Roedd yn rhan o dîm a enillodd Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1908.

George Hayward
GanwydAlfred George Hayward Edit this on Wikidata
13 Chwefror 1886 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Bu farw13 Hydref 1946 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r gynghrair, chwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe, Wigan Warriors Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Ganwyd Alfred George Hayward yn Abertawe, yn blentyn i Alfred Hayward, pobydd, ac Elizabeth (née Evans) ei wraig. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth fel llafurwr yn nociau Abertawe. Ym 1910 priododd Evelyn Davies[1], bu Evelyn marw ym 1918. Priododd Hayward am yr ail dro â Margaret E Elson ym 1924, bu iddynt o leiaf dau fab. Bu farw yn Abertawe yn 60 mlwydd oed.[2]

Gyrfa rygbi golygu

Gwnaeth Hayward ei ymddangosiad rhyngwladol gyntaf i Gymru ddydd Sadwrn 1 Chwefror 1908 yn erbyn yr Alban ar faes St. Helen Abertawe dan gapteiniaeth George Travers.[3] Enillodd Cymru’r ornest ddadleuol o drwch y blewyn a dewiswyd Hayward eto ar gyfer gêm nesaf y twrnamaint yn erbyn yr Iwerddon. Enillodd Cymru yr ornest, y Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg. Yn ystod 1908, wynebodd Hayward dîm teithiol Awstralia, fel aelod o dimau Sir Forgannwg ac Abertawe, gan orffen ar yr ochr fuddugol ar lefel ryngwladol a chlwb, ond gan golli yn y cyfarfyddiad sirol. Roedd hefyd yn rhan o dîm Abertawe a gurodd De Affrica ar Ddydd San Steffan 1912.

Ym mis Rhagfyr 1913, gadawodd Hayward Abertawe ac ymuno â thîm proffesiynol y gynghrair, Wigan, gan wneud ei ymddangosiad gyntaf ddydd Sadwrn 27 Rhagfyr yn erbyn Runcorn.[4]

Chwaraeodd George Hayward ym muddugoliaethau Wigan yng Nghynghrair Sir Gaerhirfryn yn ystod tymor 1913–14 a thymor 1914–15.[5]

Gemau rhyngwladol golygu

Cymru[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3., 1911 census

Cyfeiriadau golygu

  1. "SWANSEANTERNATIONALSWEDDING - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-08-10. Cyrchwyd 2021-04-22.
  2. Western Mail 14 Hydref 1946 Obituary George Hayward
  3. "THE NEW WELSH CAP - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-02-01. Cyrchwyd 2021-04-22.
  4. "GEORGEHAYWARDSBAPTISMI - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder". [s.n.] 1914-01-03. Cyrchwyd 2021-04-22.
  5. "Statistics at wigan.rlfans.com". wigan.rlfans.com. 31 December 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-21. Cyrchwyd 1 January 2013.
  6. Smith (1980), tud 466.