George Osborne Morgan
Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig oedd Syr George Osborne Morgan (8 Mai 1826 – 25 Awst 1897).
George Osborne Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mai 1826 Göteborg |
Bu farw | 25 Awst 1897 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Ganed ef yn Gothenburg, Sweden, ac fe'i addysgwyd yn Ysgol Friars, Bangor, Ysgol Amwythig a Coleg Balliol, Rhydychen. Daeth yn fargyfreithiwr yn 1853. Bu'n Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych o 1868 hyd 1885, a thros etholaeth Dwyrain Sir Ddinbych o 1885 hyd ei farwolaeth. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Sant Tysilio, Llandysilio-yn-Iâl.
Roedd yn gyfrifol am gyflwyno'r Ddeddf Gladdedigaethau yn 1870, a basiwyd yn y diwedd yn 1880, yn rhoi'r hawl i gynnal unrhyw wasanaeth claddu Cristnogol ym mynwent y plwyf. Cododd hyn o'r digwyddiadau yn angladd Henry Rees yn 1869. Roedd hefyd yn gyfrifol am Ddeddf Mannau Addoli (Safleoedd) a basiwyd yn 1873. Roedd yn gefnogwr i fesur Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ac i Goleg Prifysgol Aberystwyth.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr Watkin Williams-Wynn a Robert Myddelton-Biddulph |
Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych gyda Syr Watkin Williams-Wynn (hyd Mai 1885); Syr Herbert Williams-Wynn (o Mai 1885) 1868 – 1885 |
Olynydd: dilewyd yr etholaeth |
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Sir Ddinbych 1885 – 1897 |
Olynydd: Samuel Moss |