Samuel Moss
Roedd Ei Anrhydedd y Barnwr Samuel Moss MA BCL (13 Rhagfyr 1858 – 14 Mai 1918) yn wleidydd a chyfreithiwr Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Dwyrain Sir Ddinbych rhwng 1897 a 1896 ac fel Barnwr Llys Sirol Gogledd Cymru a Chaer o 1906 hyd ei farwolaeth.[1]
Samuel Moss | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1858 Yr Orsedd |
Bu farw | 14 Mai 1918 Llandegla |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr, barnwr |
Swydd | Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Moss yn Yr Orsedd, Sir Ddinbych yn fab i Enoch Moss.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Wigan a Choleg Caerwrangon, Rhydychen. Dechreuodd fel myfyriwr yn Rhydychen yn 16 mlwydd oed, graddiodd yn BA gydag anrhydedd mewn rhethreg ym 1878. Ym 1880 enillodd gradd BCL (Baglor y Gyfraith Gyffredin) a gradd MA ym 1882.[2]
Priododd Eleanor Bythell Samuel, merch hynaf E. B. Samuel, the Darland, Yr Orsedd, ym 1895.[3] Bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.[1]
Gyrfa
golyguDerbyniwyd Moss yn aelod o Lincoln's Inn ym 1877 ac fe'i galwyd i'r Bar ym 1880. Am dair blynedd bu'n athro yn dysgu'r clasuron yn y Coleg Eingl-Americanaidd yn Nice, Ffrainc.[2] Ym 1883 ymunodd fel bargyfreithiwr ar gylchdaith Caer a Gogledd Cymru, ond bu iechyd gwan yn ei rwystro rhag cyflawni unrhyw waith cyfreithiol am bedair blynedd.
Ym 1887 penodwyd Moss yn Gomisiynydd Ffiniau Cynorthwyol o dan Ddeddf Ffiniau Llywodraeth leol, gyda chyfrifoldeb am bennu ffiniau Cynghorau Sir Newydd Cymru [4] a ffiniau undebau deddfau'r tlodion.[5]
Gyrfa Wleidyddol
golyguWedi ffurfio'r cynghorau sir newydd ym 1888 safodd Moss fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn ward Burton ar Gyngor Sir Ddinbych. Safodd y Capten Griffith Boscawen dros y Ceidwadwyr gan gipio'r sedd o 149 bleidlais, mwyafrif o 16 dros 133 pleidlais Moss [6]. Er gwaethaf iddo golli'r etholiad fe'i penodwyd i'r Cyngor Sir fel henadur (cynghorydd nad oedd angen ei ethol). Etholwyd Thomas Gee yn gadeirydd y cyngor gyda Moss yn ddirprwy iddo. Pan ymddeolodd Gee o'r gadair ym mis Mawrth 1893 dyrchafwyd Moss yn gadeirydd yn ei le.[7]. Bu hefyd yn aelod o Gyngor Tref Caer o 1894.
Wedi marwolaeth George Osborne Morgan Aelod Seneddol Dwyrain Sir Ddinbych, dewiswyd Moss i sefyll dros y Rhyddfrydwyr yn yr isetholiad dilynol. Llwyddodd i dal gafael ar y sedd i'w blaid gan ennill dros 65% o'r bleidlais. Cafodd ei ethol heb wrthwynebiad yn etholiadau 1900 a 1906.
Ym mis Mai 1906 apwyntiwyd Moss yn ddirprwy barnwr Llys Sirol (llys man ddyledion) Gogledd Cymru a Chaer i ddirprwyo dros y barnwr Syr Horatio Lloyd a oedd yn sâl. Gan ei fod yn swydd llanw, caniatawyd i Moss parhau i fod yn Aelod Seneddol, ar yr amod nad oedd yn derbyn tâl am ei waith fel barnwr.[8]. Pan ymddeolodd Syr Horatio fel Barnwr dyrchafwyd Moss i'r Farnwriaeth lawn yn ei le a bu'n rhaid iddo ildio ei sedd yn y senedd.[9].
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Accre Hall, Llandegla ar ôl salwch hir yn 59 mlwydd oed.[10] Claddwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Tegla, Llandegla.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (2007, December 01). Moss, His Honour Judge Samuel, (13 Dec. 1858–14 May 1918), JP (Denbighshire); County Court Judge, North Wales, Chester District (Circuit No 29), since 1906; barrister-at-law. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 20 Chwef. 2019
- ↑ 2.0 2.1 "SAMUEL MOSS MA BCL - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-06-10. Cyrchwyd 2019-02-20.
- ↑ "MARRIAGE OF MR SAMUEL MOSS AT ROSSETT - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1895-11-30. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "THE GLAMORGANSHIRE BOUNDARIES - South Wales Echo". Jones & Son. 1888-05-18. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "MERTHYR UNION BOUNDARIES - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-05-19. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "The New Denbighshire County Council - Denbighshire Free Press". Charles Cottom & Co. 1889-01-19. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "Cadeirwyr y Cynghorau Sirol - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1893-03-23. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "MRSAMUELMOSSMP - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1906-05-12. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "APPWYNTIAD MR SAMUEL MOSS FEL BARNWR - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1906-07-14. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "IJUDGEMOSS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1918-05-17. Cyrchwyd 2019-02-21.
- ↑ "OBITUARY - Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal". Hugh Jones. 1918-05-24. Cyrchwyd 2019-02-21.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: George Osborne Morgan |
Aelod Seneddol | Olynydd: Edward George Hemmerde |