George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr
Roedd George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr (5 Awst 1795 – 7 Hydref 1869) yn fonheddwr Cymreig a wasanaethodd fel aelod Torïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi Senedd y Deyrnas Unedig.[1]
George Rice-Trevor, 4ydd Barwn Dinefwr | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1795 |
Bu farw | 7 Hydref 1869 Malvern |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Tori |
Tad | George Rice, 3ydd Barwn Dinefwr |
Mam | Frances Townshend |
Priod | Frances Fitzroy |
Plant | Frances Emily Rice-Trevor, Caroline Elizabeth Anne Rice-Trevor, Selina Rice-Trevor, Elianore Mary Rice-Trevor |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Arglwydd Dinefwr ym 1795 yn fab i George Talbot Rice, 3ydd Barwn Dinefwr a'r Anrhydeddus Frances Townsend, ei wraig, trydedd ferch Thomas Is-iarll cyntaf Sydney.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg yr Iesu, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1812 a graddio gyda Doethuriaeth yn y Gyfraith Cyffredin ym 1834.
Newidiodd ei gyfenw i Rice-Trevor trwy drwydded frenhinol ym 1824 ar ôl etifeddu ystadau teulu Trevor yn Glynde, Dwyrain Sussex.
Priododd Frances Fitzroy ar 27 Tachwedd 1824 merch yr Arglwydd Charles Fitzroy bu iddynt pum merch:
- Frances Emily Rice (1827–1863)
- Eva Gwenllian Rice-Trevor († 1842)
- Caroline Elizabeth Anne Rice-Trevor (1829–1887)
- Selina Rice-Trevor (1836- 1918)
- Eleanore Mary Rice-Trevor († 1897)
Gyrfa Wleidyddol
golyguEtholwyd Rice-Trevor i'r Tŷ Cyffredin fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1820 gan dal y sedd hyd Etholiad Cyffredinol 1831 pan safodd i lawr gan nad oedd yn credu bod ei farn bersonol ar ddiwygio’r senedd yn gyd fynd a barn ei etholwyr. Wedi pasio'r Deddf Diwygio Fawr ym 1832 penderfynodd ail ymgeisio am y Senedd yn Etholiad Cyffredinol 1832 gan lwyddo i gael ei ddychwelyd ar ôl gwario dros £30,000 ar yr ymgyrch (tua £2.5 miliwn yn ôl gwerth cyfredol)[2]. Cadwodd y sedd hyd 1852, pan gafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad.
O 1852 hyd 1869 gwasanaethodd fel Aid De Camp (ysgrifennydd personol) i'r Frenhines Fictoria.
Gwasanaethodd fel Capten ym Milisia Sir Gaerfyrddin o 1813 i 1821, pan gafodd ei ddyrchafu yn Is gyrnol; ym 1852 cafodd ei ddyrchafu yn Gyrnol y Milisia.
Ym 1839 cafodd ei benodi yn Is Raglaw Sir Gaerfyrddin. Fel Is Raglaw'r sir ac Is gyrnol y Milisia yr oedd yn weithgar yn yr ymgyrch i rwystro a dal y sawl a fu'n ymgyrchu yn Helyntion Becca.[3]
Marwolaeth
golyguBu farw Dinefwr yn Great Malvern, Swydd Gaerwrangon ar y 7fed Hydref 1869 yn 74 mlwydd oed; gan nad oedd ganddo etifedd gwrywaidd aeth y Barwniaeth i'w gefnder y Parch Francis William Rice.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Death of Lord Dynevor[1] Adalwyd 12 Ebrill 2015
- ↑ Measuring Worth [2] Archifwyd 2014-08-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Ebrill 2015
- ↑ Policing Rebecca - The 4th Lord and the Rebecca Riots [3] Archifwyd 2015-02-16 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Yr Arglwydd Robert Seymour |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1820 – 1831 |
Olynydd: James Hamlyn-Williams |
Rhagflaenydd: James Hamlyn-Williams |
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin 1832 – 1852 |
Olynydd: David Jones |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: George Talbot Rice |
Barwn Dinefwr 1852 - 1869 |
Olynydd: Francis William Rice |