Geraint Jones (Trefor)

llenor Cymreig, cerddor ac ymgyrchydd iaith

Awdur Cymraeg, cerddor ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones. Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor chyngor dosbarth Dwyfor. Gwynedd. Mae yn arweinydd Seindorf Arian Trefor ers 1969 ac yn aelod o'r Seindorf ers 68 o flynyddoedd. Bu yn brifathro'r ysgol leol. [1] Mae o bellach yn un o brif arweinwyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn olygydd ar ei chylchgrawn digidol hi, sef Yr Utgorn, a gyhoeddir yn chwarterol ar lein ac ar grynoddisg ac a ddosberthir i'r deillion - ac i rai eraill sydd yn talu amdano.

Geraint Jones
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantMorgan Jones Edit this on Wikidata

Cafodd Jones ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ei fab, Morgan Jones, yn gyflwynydd teledu sy'n adnabyddus fel prif gyflwynydd y rhaglen chwaraeon Sgorio ar S4C. Mae hefyd yn gyflwyno sgyrsiau Yr Utgorn. Mae ei ferch, Caren, yn nyrsio.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 dyfarnwyd Medal Syr T.H. Parry-Williams iddo.

Llyfryddiaeth golygu

  • Rhen Sgŵl (1978)
  • Cywrain Wŷr y Cyrn Arian (Pwyllgor Seindorf Trefor, 1988)
  • Dianc i Drybini (1991)
  • Carchar nid Cartref (Clwb y Bont Pwllheli, 1992)
  • Hen Gerddorion Eifionydd (Cyngor Sir Gwynedd, 1993)
  • Cyrn y Diafol: Golwg ar Hanes Cynnar Bandiau Pres Chwarelwyr Gwynedd (Gwasg Gwynedd, 2004)
  • Band yr Hendra, Wmpa-Wmpa! (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
  • Trefor (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr 2006)
  • Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Gwasg y Bwythyn, 2009)
  • Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
  • (gol.) Malcom Allen (Y Lolfa, 2009)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolennau allanol golygu