Cyflwynydd teledu o Gymro yw Morgan Jones (ganwyd Rhagfyr 1971).

Morgan Jones
Ganwyd1971 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd teledu Edit this on Wikidata
TadGeraint Jones (Trefor) Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd a magwyd Morgan ym mhentre Trefor. Mae'n byw yno gyda'i wraig Cêt ac mae ganddynt ddau blentyn.

Aeth i Ysgol Trefor ac yna i Brifysgol Bangor lle graddiodd yn 1994 gyda gradd BA dosbarth cyntaf yn y Gymraeg. Cafodd PhD gan Brifysgol Cymru yn 2000 am ei draethawd ymchwil ar farddoniaeth y 16g.[1]

Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel cyflwynydd y rhaglen bêl-droed Sgorio ar S4C, ac wedi gwneud y swydd ers 2001. Mae ei diddordeb cyffredinol mewn chwaraeon wedi ei weld yn cyflwyno Ras yr Wyddfa a Marathon Eryri am nifer o flynyddoedd.[2] Mae hefyd yn cyflwyno darllediadau byw o ddigwyddiadau diwylliannol mawr yng Nghymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen a sioe Frenhinol Cymru. Aeth y gyfres 'Digwyddiadau' ag ef i ddigwyddiadau amrywiol ledled y wlad am sawl blwyddyn.

Mae ganddo cefndir cerddorol, a rhoddodd hyn y cyfle iddo gyflwyno Côr Cymru a Band Cymru. Mae hefyd yn cyflwyno cystadleuaeth Canwr y Byd ac yn aml wedi cyflwyno Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Mae Morgan hefyd wedi cyflwyno y cwis rhaglenni "0 ond 1" a Tipit gyda Alex Jones.[3]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Morgan Jones. Welsh Stars. Adalwyd ar 17 Gorffennaf 2017.
  2. Rachel Mainwaring (24 Hydref 2009). "Favourite room: Morgan Jones". WalesOnline. Cyrchwyd 2010-07-23.
  3. Abigail Hughes (7 Hydref 2006). "Tip the balance..." Liverpool Daily Post. Cyrchwyd 2010-07-23.