Geraint Morris
Roedd Geraint Morris (28 Mawrth 1941 – 12 Gorffennaf 1997) yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm a theledu Cymreig. Ganwyd ym Merthyr Tudful.[1]
Geraint Morris | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mawrth 1941 Cymru |
Bu farw | 12 Gorffennaf 1997 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm |
Ei waith cyfarwyddo cyntaf oedd The Onedin Line (1971). Yn ddiweddarach, gweithiodd ar Sutherland's Law, Barlow at Large a Juliet Bravo.
Yn ystod y 1970au, daeth Morris yn gynhyrchydd teledu, gan ddechrau gyda'r ddrama heddlu Softly, Softly, o 1973 tan 1976.
Erbyn 1980, roedd Morris yn gweithio ym myd y teledu'n llwyr. Helpodd greu'r gyfres deledu hynod lwyddiannus Casualty (sydd wedi cael ei darlledu ers 1986) a chyfrannodd at y gyfres am y pedair cyfres gyntaf cyn iddo adael ar ddiwedd 1989.
Bu farw yng Nghasnewydd, Gwent ym mis Gorffennaf 1997 o ganlyniad i gancr yr ysgyfaint. Roedd yn 56 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hayward, Anthony. Obituary: Geraint Morris (en) , The Independent, 14 Gorffennad 1997. Cyrchwyd ar 2 Chwefror 2016.