Agor y brif ddewislen

Gerald Morgan

awdur, hanesydd ac addysgwr

Mae Gerald Morgan yn awdur, hanesydd ac addysgwr (ganwyd 1935).

Gerald Morgan
Ganwyd 1935 Edit this on Wikidata
Brighton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Pennaeth, Hanesydd Edit this on Wikidata

Addysg a GyrfaGolygu

Ganed Gerald Morgan yn Brighton yn 1935 i rieni o Gymry: ei dad Tudor yn Gymro Cymraeg o Bontardawe. Aeth Gerald ati i ddygu Cymraeg, "o ddim" gyda chymorth ei gyd-fyfyrwyr yn Rhydychen.[1] Graddiodd mewn Saesneg o Brifysgol Caergrawnt ac mewn Astudiaethau Celtaidd o Brifysgol Rhydychen cyn symud i fyw i Gymru yn 1962. Bu'n athro Saesneg yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug ac Ysgol Uwchradd Aberteifi cyn dod yn brifathro Ysgol Gyfun Llangefni yn 1968 ac wedyn yn brifathro cyntaf Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth yn 1973.

Gadawodd Gerald Ysgol Penweddig yn 1989 i fod yn ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Allanol Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, a gorffen yn 2001.

AwdurGolygu

Mae Gerald Morgan wedi bod yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a'r Saesneg dros gyfnod o hanner canrif. Heblaw nifer o erthyglau yn y wasg academaidd a phoblogaidd, mae’n awdur: Yr Afal Aur (1965), The Dragon’s Tongue: The Fortunes of the Welsh Language (1966), This World of Wales (editor; 1968), Crist yn y Gwlag (1986), Castles in Wales: A Guidebook (2008), A Brief History of Wales (2008), Looking for Wales (2013), Dinefwr: a Phoenix in the Welsh Landscape (2014) Ar Drywydd Dewi Sant (2016), In Pursuit of Saint David (2017) a Cymro a’i Lyfrau (2018).

Mae hefyd wedi ysgrifennu’n fynych ar Geredigion: Cyfoeth y Cardi (1995), Helyntion Y Cardi – Ysgrifau Ar Hanes Ceredigion (1997), A Welsh House and its Family: the Vaughans of Trawsgoed (1997), Nanteos: A Welsh House and its Families (golygydd, 2001), Ceredigion: A Wealth of History (2005), Llwybr Arfordir Ceredigion – O’r Teifi i’r Dyfi / The Ceredigion Coast Path – From the Teifi to the Dyfi (2008).

Tywysydd Parêd Gŵyl Ddewi AberystwythGolygu

 
Gerald Morgan, Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2015

Yn 2015 penodwyd Gerald i rôl 'Tywysydd' yn nathliadau Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror. Mae bod yn Dywysydd yn arwydd o anrhydedd fel cydnabyddiaeth am gyfraniad i Gymreictod a'r Gymraeg yn ardal Aberystwyth.

Nododd Cadeirydd y Parêd, Siôn Jobbins mewn datganiad i'r wasg adeg yr orymdaith, fod "Gerald wedi bod yn bont rhwng siaradwyr Cymraeg a dysgwyr ers degawdau. Er ei fod o deulu Cymreig doedd ganddo ddim Cymraeg a bu’n rhaid iddo ddechrau 'o ddim' cyn dod yn rhugl yn yr iaith. Mae hyn, a’i ddealltwriaeth dwfn o Gymru ac o’i deulu estynedig Gymreig, wedi rhoi iddo ddealltwriaeth dda wrth gynorthwyo pobl o bob cefndir i ddysgu Cymraeg.”

PersonolGolygu

Mae'n briod â'r Parchedig Ganon Enid Morgan. Mae ganddynt 3 mab a 6 ŵyr.

CyfeiriadauGolygu

  1. Datganiad i'r wasg ar gyfer Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth 2015