Llwybr Arfordir Ceredigion: O'r Teifi i'r Dyfi

Cyfrol am Lwybr Arfordir Ceredigion gan Gerald Morgan yw Llwybr Arfordir Ceredigion – O'r Teifi i'r Dyfi.

Llwybr Arfordir Ceredigion: O'r Teifi i'r Dyfi
AwdurGerald Morgan
CyhoeddwrCyngor Ceredigion
GwladCymru
IaithCymraeg a Saesneg
PwncTwristiaeth yng Nghymru
Argaeleddmewn print
ISBN9780953438334

Cyngor Ceredigion a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2011. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1] Mae Llwybr Arfordir Ceredigion wedi'i ddatblygu gan Gyngor Sir Ceredigion â chymorth yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chymdeithas y Cerddwyr.

Adolygiad golygu

Yn y llyfr, rhennir y daith ei hun yn saith prif bennod, gan fynd â ni'n hamddenol o Aberteifi i Ynys Las ac aber yr afon Dyfi. Does dim peryg o fynd ar goll – ceir yn y llyfr ddisgrifiad manwl o bob cam o’r daith, ble i droi, a beth a welir o’ch blaen. Pe na bai hyn yn ddigon, peth eithriadol o ddefnyddiol yw bod y cyhoeddwyr wedi cael caniatâd arbennig i atgynhyrchu rhannau o fapiau gwych yr arolwg ordnans, sydd yn golygu nad oes yn rhaid prynu map i gyd-fynd â’r llyfr – mae’r llyfr hwn yn gydymaith cyflawn i gerdded llwybr yr arfordir.

Cydymaith cyflawn – oblegid nid yn unig dweud y ffordd a wna’r awdur, ond ar y daith cawn hefyd ddysgu am nodweddion daearegol trawiadol arfordir Ceredigion, cawn wybod pa adar, planhigion ac anifeiliaid y gallwn ddisgwyl eu gweld ar y ffordd – a chawn ddysgu am hanes cymdeithasol a morwrol yr ardal gyfoethog hon o Gymru; y cwbl oll mewn un llyfr taclus a darllenadwy. Yn ychwanegol, cawn wybodaeth am gyfleusterau’r pentrefi a’r trefi ar y ffordd, gyda phennod ychwanegol o wybodaeth yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus a lle i ganfod llety ac yn y blaen.

Mae'r uchod yn addasiad o adolygiad o'r gyfrol, fel y'i gwelir ar wefan Gwales yma. Awdur yr adolygiad gwreiddiol ar Gwales oedd Rhodri Dafydd.



Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013